Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad AaGIC ynghylch camymddwyn rhywiol mewn llawfeddygaeth

Cyhoeddwyd 15/09/2023

Cawsom sioc a thristwch mawr i ddarllen canfyddiadau'r astudiaeth mewn i Gamymddwyn Rhywiol mewn Llawfeddygaeth. Rydym am fod yn glir iawn; mae meddygon ôl-raddedig dan hyfforddiant yn aelodau hanfodol a gwerthfawr iawn o weithlu GIG Cymru ac fel holl staff y GIG, rhaid eu trin â pharch. Nid oes lle o gwbl yn amgylchedd y gweithle ar gyfer camymddwyn yn erbyn menywod neu gamymddwyn rhywiol o unrhyw natur.

Rydym wedi cysylltu â hyfforddeion yng Nghymru i gynnig cymorth a chefnogaeth drwy ein huned cymorth proffesiynol ac ysgol llawfeddygaeth i unrhyw un sydd ei angen. Mae unrhyw bryderon sy'n cael eu hadrodd i ni yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn cael eu cymryd yn ddifrifol iawn, gyda chamau'n cael eu cymryd yn brydlon mewn cysylltiad â chyflogwyr ac asiantaethau eraill.

Byddwn yn gweithio ar y cyd â hyfforddwyr, hyfforddeion a'n sefydliadau partner gan gynnwys Byrddau Iechyd, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Colegau Brenhinol a'r BMA i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad annibynnol yn cael eu gweithredu, a bod diwylliant o fewn yr amgylchedd hyfforddi yng Nghymru yn un o ddiogelwch a thosturi.