Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad AaGIC

Fel sefydliad rydym yn hyrwyddo ymddygiad tosturiol, cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch tuag at bawb. Mae’r trais a’r casineb yr ydym wedi’u gweld mewn rhannau o’r DU dros y dyddiau diwethaf yn druenus ac nid oes iddo le yn y gymdeithas.

Yn y GIG rydym yn ffodus i gael cydweithwyr o bob rhan o’r byd sy’n hyfforddi ac yn gweithio i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal i’r gymuned gyfan ac sy’n aelodau gwerthfawr o’r GIG.

Nid ydym yn goddef hiliaeth mewn unrhyw ffurf ac yn sefyll yn gadarn o blaid ein cymunedau lleol yn ogystal â'r rhai ar draws y DU.