Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd Optometreg Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) eu digwyddiad hyfforddi mewnol cyntaf ar gyfer Optometryddion

Cynhaliodd Optometreg Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) eu digwyddiad hyfforddi mewnol cyntaf ar gyfer Optometryddion yn Nhŷ Dysgu ddydd Gwener 12 Ebrill 2024 gan ddefnyddio offer arbenigol a fydd yn caniatáu i sesiynau hyfforddi grwpiau bach gael eu cyflwyno i optometryddion o bencadlys AaGIC. Mae elfen gweithdy sgiliau'r sesiynau hyn yn gofyn am ddefnyddio'r offer i archwilio nodweddion y llygad yn fanwl er mwyn canfod a rheoli patholeg.

 

Mae practisau optometreg ar y stryd fawr bellach yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i gleifion fel rhan o gontract Optometreg newydd. Mae hyn yn galluogi cyflyrau llygaid i gael eu rheoli yn y gymuned yn hytrach nag ysbytai ac yn atal atgyfeiriadau diangen. 

 

Mae'r hyfforddiant yn hanfodol ac yn orfodol i ddarparu sicrwydd addysgol ar gyfer gwasanaethau cleifion Contract Optometreg y GIG ledled Cymru.  

 

Dywedodd Sasha Macken and Laura Heylin– Tiwtoriaid Optometreg AaGIC

  

‘Rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu hyfforddiant i Optometryddion o Dŷ Dysgu. Ar ôl blynyddoedd lawer o gynnal digwyddiadau mewn adeiladau eraill, roedd yn bleser arddangos cyfleusterau Tŷ Dysgu. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant a dangosodd yr un ar ddeg o fynychwyr frwdfrydedd mawr gyda’r sesiynau wyneb yn wyneb. Edrychwn ymlaen at fwy o ddigwyddiadau Optometreg ym mhencadlys AaGIC