Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd AaGIC: Optometreg 360

19 Chwefror 2025

2 - 8pm

Stadiwm Swansea.com

Wedi'i anelu at: Optometryddion, Optegwyr Cyflenwi, Optometryddion Cyn-gofrestru

Mae Optometreg AaGIC yn eich gwahodd i'w cynhadledd flynyddol nesaf yn Abertawe – 'Optometreg 360'

Bydd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys rhagnodi annibynnol, heriau clinigol ac yn cynnwys prif ddarlith a dewis o gyfleoedd adolygu gan gymheiriaid. Bydd hefyd yn archwilio'r heriau gweledol sy'n gyffredin ymhlith unigolion niwrowahanol, megis gwahaniaethau prosesu synhwyraidd, anawsterau tracio llygaid, a strategaethau archwilio sensitifrwydd golau.

Cynhadledd hanner diwrnod yw hon sy’n dechrau am 2pm i 8pm

ARCHEBWCH EICH LLE

Manylion y Gynhadledd:

Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2025 am 2pm

Lleoliad: Stadiwm Swansea.com

 

Prif Siaradwyr:

Ian Collings, Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol (AaGIC), Seiciatrydd Ymgynghorol Cymunedol i Oedolion (BIAP) (1 pwynt DPP)-Pwnc: “Gweld yn glir: gwneud y gorau o daith y claf niwrowahanol mewn gwasanaethau gofal llygaid.”

Dr Napoleon Devaraja, Offthalmolegydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (1 pwynt DPP) - Pwnc: Disgiau Optig sydd wedi chwyddo.

 

1) Rhagnodi Annibynnol ar Waith: Dull Seiliedig ar Achos [mae 3 phwynt Rhagnodi Annibynnol Arbenigol a 3 phwynt OO cyffredinol ar gael]

Mae’r sesiwn ryngweithiol hon wedi’i chynllunio ar gyfer optometryddion ar bob cam o’u taith Rhagnodi Annibynnol (IP), y rhai sydd wedi cwblhau modiwlau theori, sydd ar leoliad, neu sy’n ymarferwyr rhagnodi annibynnol cymwys. Trwy gynnal trafodaethau achos, bydd cyfranogwyr yn gwella eu penderfyniadau clinigol, yn mireinio arferion rhagnodi, ac yn magu hyder wrth reoli senarios cleifion cymhleth.  

 

2) Llywio Senarios Cleifion: Canllawiau i Dimau Practis Optegol [3 phwynt DPP]

Mae'r sesiwn adolygu cymheiriaid hon wedi'i chynllunio i wella sgiliau staff practis optegol wrth ymdrin â senarios cleifion amrywiol a heriol. Trwy gynnal trafodaethau achos a hwyluso gan arbenigwyr, bydd cyfranogwyr yn archwilio pynciau fel proffesiynoldeb, diogelu, a strategaethau cyfathrebu effeithiol. Gyda phwyntiau Optometrydd (OO) ac Optegydd Cyflenwi (DO) ar gael, mae'r sesiwn hon wedi'i theilwra i feithrin hyder a chymhwysedd mewn cyfarfyddiadau â chleifion yn y byd go iawn. 

 

3) Archwilio Patholeg Ociwlar: Astudiaethau achos WGOS4 [3 phwynt DPP]

Ymunwch â'r sesiwn ryngweithiol hon i archwilio achosion byd go iawn o batholeg ociwlar, dan arweiniad hwyluswyr profiadol. Bydd pynciau allweddol fel glawcoma, retinopathi diabetig, a navi yn cael eu harchwilio, gan ganolbwyntio ar alinio â safonau WGOS4. Mae'r sesiwn hon yn darparu offer ymarferol a mewnwelediadau gwerthfawr i gefnogi gwell diagnosis, rheolaeth, a gofal cleifion yn y meysydd pwysig hyn. 

Mae’r gynhadledd yn agored i:

  • Optometryddion
  • Optegydd Cyflenwi
  • Optegydd Lensys Cyffwrdd
  • Optometryddion cyn-gofrestru