Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth newydd i helpu staff y GIG i ffynnu mewn byd digidol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio ei Fframwaith Gallu Digidol ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae'r fframwaith yn offeryn ymarferol, rhyngweithiol sy'n ceisio helpu staff gofal iechyd i groesawu technoleg ddigidol a rhoi'r hyder a'r sgiliau iddynt addasu i ffyrdd newydd a gwell o weithio.

Mae gallu digidol yn golygu mwy nag adeiladu gweithlu sy'n barod i dderbyn y byd digidol, mae'n ymwneud â deall effaith datblygiadau digidol mewn meddygaeth a'i ddefnyddio i wella gofal cleifion hefyd.

O ddeallusrwydd artiffisial (AI) i feddygaeth fanwl, mae technoleg ddigidol yn trawsnewid gofal iechyd ac, yn y pen draw, yn galluogi y GIG i fod yn cynaliadwy.

Fel rhan o'r fframwaith hwn, mae gan staff gofal iechyd ledled Cymru gyfle i asesu eu galluoedd digidol gan ddefnyddio offeryn rhyngweithiol rhad ac am ddim.

Mae hyn yn amlinellu'r sgiliau, y cymwyseddau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i ffynnu mewn amgylchedd digidol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i staff asesu eu gallu unigol a nodi llwybrau i'w helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau digidol.

I gael mynediad at y Fframwaith Gallu Digidol, bydd angen i staff gofal iechyd gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim ar Y Tŷ Dysgu yma.

 

Cyhoeddwyd 18 Awst 2023