Neidio i'r prif gynnwy

Cymhelliant WERO ar gyfer hyfforddeion deintyddol sydd am wella gofal deintyddol yng Nghymru wledig

Cyhoeddedig: 17/7/24
 

Mae'r fenter recriwtio sydd â'r nod o annog hyfforddeion deintyddol y dyfodol i fanteisio ar gyfleoedd ledled Cymru wledig wedi bod yn llwyddiant ysgubol!

Mae’r rhan fwyaf o raddedigion deintyddol newydd yn dewis cwblhau eu blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen (DFT) mewn practis deintyddol cyffredinol mewn ardaloedd mwy trefol, gan adael rhai practisau hyfforddi mewn rhannau gwledig o Gymru heb ddigon o adnoddau gyda swyddi hyfforddi gwag.

Yn 2019/20, llenwyd 92% o’r swyddi gwag a olygai fod pecynnau cymorth yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y practisau hyfforddi hyn, ac yn anffodus, gostyngodd mynediad at ofal y GIG i’r boblogaeth leol yn yr ardal honno.

Fel ateb, lansiodd AaGIC DFT WERO (Cynnig Recriwtio Gwell Cymru)yn 2023, menter newydd i annog hyfforddeion i gwblhau eu hyfforddiant mewn practis gwledig a chynyddu gwasanaethau deintyddol i bobl yn yr ardal. Mae'r fenter yn cynnig pecyn cymorth gwell i hyfforddeion sy'n cyflawni eu blwyddyn DFT mewn practisau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Dychwelodd y cynnig hwn eleni gyda grant byw gwledig uwch a llenwyd pob un o'r 15 swydd WERO DFT. Mae’r hyfforddeion yn dechrau yn eu swyddi ym mis Medi 2024. 

Dywedodd Kirstie Moons, Deon Ôl-raddedig Deintyddol AaGIC Rwyf wrth fy modd y gall AaGIC gynnig cymhellion lleol i dyfu a chadw ein gweithlu deintyddion mewn ardaloedd yng Nghymru sy’n draddodiadol anodd eu recriwtio. Mae'r fenter hon wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a bydd yn helpu i sicrhau bod gofal deintyddol y GIG yn parhau i bobl mewn ardaloedd gwledig. Bydd hefyd yn diogelu lleoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen yn y practisau deintyddol hyn i ddeintyddion newydd gymhwyso wneud cais iddynt yn y dyfodol.

Ychwanegodd William Howell, perchennog practis ym Mhractis Deintyddol Aberteifi sy’n cynnig lle hyfforddi deintyddol, Mae Aberteifi yn cynnig cymaint o bethau, o ganol tref ffyniannus i’w thraethau hardd a’i chefn gwlad. Mae gan ein practis deintyddol newydd gyfleusterau o’r radd flaenaf, staff profiadol sy’n frwd dros addysgu a chyfleoedd cyflogaeth posibl unwaith y bydd yr hyfforddiant wedi’i gwblhau. Byddwn yn gwneud popeth i wneud i hyfforddeion deimlo'n gartrefol ac rwy'n siŵr y byddant yn cwympo mewn cariad â'r ardal yn union fel yr ydym ni wedi.