Cyhoeddwyd 25/10/2023
Ydych chi'n fferyllydd gyrfa gynnar sy'n edrych i fynd â'ch taith broffesiynol i'r lefel nesaf?
Ydych chi'n dyheu am ddatblygu sylfaen gadarn mewn fferylliaeth ac ennill cymwysterau gwerthfawr?
Os felly, mae gan ein rhaglen Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), y cyfle perffaith i chi.
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer fferyllwyr gyrfa gynnar sydd wedi'u cofrestru rhwng 18 a 24 mis. Mae'n cynnig cyfle i wella eich gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau proffesiynol. Bydd hyn yn eich galluogi i ymarfer yn hyderus mewn amrywiaeth o sectorau fferyllol ar lefel sylfaen ôl-gofrestru gyffredinol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn:
I gymryd rhan yn y cyfle cyffrous hwn, rhaid i fferyllwyr gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd erbyn dechrau Rhagfyr 2023, gyda'r rhaglen yn dechrau ym mis Ionawr 2024.
Bydd y rhaglen yn parhau i redeg nes bod safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol newydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) ar gyfer fferyllwyr yn cael eu gweithredu'n llawn erbyn mis Gorffennaf 2026.
Bydd fferyllwyr yn derbyn cefnogaeth helaeth, gan gynnwys goruchwyliaeth addysgol, goruchwyliaeth ymarfer, ac arweiniad gan ymarferydd rhagnodi dynodedig ar gyfer yr elfen ragnodi annibynnol. Yn ogystal, cewch gyfle i gydweithio ac adeiladu cymunedau ymarfer gyda chyd-gyfoedion, gan greu rhwydwaith o gefnogaeth.
Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o elfennau hanfodol, gan gynnwys:
Mae cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus yn paratoi'r ffordd i fferyllwyr ddatblygu eu gyrfaoedd trwy lwybr ymarfer uwch y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS).
Mae'r rhaglen hon yn cyflwyno ystod o gyfleoedd lleoliad ar draws sawl lleoliad gofal iechyd.
I wneud cais am y swyddi gwag hyn, bydd angen i fferyllwyr gysylltu â'r cyflogwr yn uniongyrchol. Mae mwy o wybodaeth am y swyddi gwag sydd ar gael a chysylltiadau cyflogwyr ar gael ar dudalen we ein fferyllfa.
I gael rhagor o wybodaeth neu ymholiadau am Raglen Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru AaGIC mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), e-bostiwch HEIW.PRFP@wales.nhs.uk neu ewch i dudaleny rhaglen.