Cyhoeddedg: 18/12/2025
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Pherfformiad a Gwella y GIG yn cydweithio i greu cynllun strategol sy'n cynnwys profiad byw yn y model newydd o ofal iechyd meddwl yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i symud i ffwrdd o lwybrau gofal cymhleth tuag at fodel sy’n canolbwyntio ar y person a pherthnasau lle mae gofal a chymorth pob unigolyn yn seiliedig ar eu galluoedd a'u profiadau eu hunain.
Bydd y cynllun yn nodi'r cynnig ar gyfer Profiad Byw a disgrifio sut y dylai gefnogi'r model gofal agored newydd yng Nghymru.
I helpu i lunio'r cynllun, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, gan ddod â byrddau iechyd y GIG, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector a phobl â phrofiad byw at ei gilydd. Mae clywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol iechyd a defnyddwyr gwasanaeth yn bwysig i adlewyrchu’r gweithlu presennol o’r posibiliadau a’r effaith mae cynnwys rolau profiad byw yn cael ledled Cymru.
Mae trosolwg o'r digwyddiad ymgysylltu cyntaf ar gael i ddysgu mwy am bwysigrwydd y gwaith hwn.
Mae'r mewnwelediadau o'r digwyddiad ymgysylltu cyntaf wedi datgelu consensws cyffredinol bod cymorth gan gyfoedion yn hanfodol a bod cynnwys rolau cymorth cyfoedion yn chwarae rhan hanfodol wrth wella gofal iechyd meddwl ledled Cymru. Ymhlith llawer o drafodaeth, nododd cyfranogwyr ddatblygiad rolau, cynaliadwyedd a llwybrau gyrfa fel ystyriaethau pwysig ar gyfer y cynllun strategol.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd ail ddigwyddiad yng Ngorllewin Cymru i archwilio ymhellach gyfleoedd ar gyfer ymgorffori cefnogaeth gan gymheiriaid o brofiad byw o fewn y model newydd ac i gyfrannu at ddatblygiad y cynllun strategol.
Wedi'i gynnal yng Nghaerfyrddin, daeth y digwyddiad â dros 50 o fynychwyr ynghyd a wrandawodd, a rannodd fewnwelediadau ac a gymerodd ran mewn trafodaethau ystyrlon i lywio datblygiad y cynllun strategol.
Roedd uchafbwyntiau o'r diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar rolau cymorth cyfoedion a mentoriaid cyfoedion. Clywodd y cyfranogwyr gan bobl sy'n gweithio yn y rolau hyn a'r rheini sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw, ar draws amrywiaeth o wasanaethau. Fe wnaethon nhw siarad am eu daith o weithio mewn rolau profiad byw, beth mae eu rolau'n ei olygu a'r effaith sydd ganddyn nhw ar y bobl o'u cwmpas. Roedd yn glir bod eu profiad a'u lleisiau wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi a darparu gofal cleifion ystyrlon ledled y ddau fwrdd iechyd.
Croesawodd y digwyddiad hefyd Plattform, elusen ar gyfer iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Yn ystod y sesiwn hon, pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltiadau a bod iechyd meddwl person yn dibynnu'n yn fawr ar eu 'ecosystem' o'u cwmpas, gyda chysylltiadau yn flaenllaw. Mae hyn yn cefnogi'r ideoleg o amgylch pwysigrwydd cymorth cyfoedion profiad byw a chynnig amgylchedd diogel a chefnogol i unigolion adeiladu cysylltiadau, rhannu eu profiadau a teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Dywedodd Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn AaGIC :
“Rydym yn falch o'r cyfle i gydweithio â Pherfformiad a Gwella y GIG ar y gwaith hwn. Mae profiad byw yn hanfodol wrth ddarparu gofal iechyd meddwl effeithiol a phrydlon. Mae ymgysylltu â'r gweithlu wedi ein galluogi i glywed yn uniongyrchol yr effaith mae rolau profiad byw yn ei chael ar ddarparu gofal cleifion ystyrlon a chynhwysfawr. Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r gwaith hwn a lansio'r cynllun yn Ngwanwyn 2026.”
Bydd y trydydd gweithdy a gynhelir ar Ionawr 14 yng Ngogledd Cymru, yn cynnig cyfle i rannu'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg hyd yma. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i ystyried unrhyw ychwanegiadau i'r cynllun strategol.
Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, cysylltwch â'r Tîm Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl AaGIC. Mae gwybodaeth am y gwaith ehangach ar y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gael ar wefan AaGIC.