Ar 7fed Gorffennaf ymunodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Leeds â ni am yr haf. Rydym yn falch iawn o'u croesawu i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae'r 7 myfyriwr wedi'u lleoli mewn adrannau ar draws y sefydliad gan gynnwys tîm gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP), tîm efelychu, tîm cyllid, y Gymraeg, gweithlu'r dyfodol, gwyddor gofal iechyd, a thîm profiad a gwella lleoliadau.
Bydd y rhaglen interniaeth 8 wythnos yn galluogi iddynt weithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys marchnata digidol, ymchwil technolegau ymgolli a phrosiect hyb digidol gwyddor gofal iechyd i ennill profiadau a mewnwelediadau gwerthfawr wrth weithio yn GIG Cymru.
Dros yr wythnosau nesaf bydd ein interniaid yn rhannu eu profiadau mewn blogiau a chynnwys ar wefannau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at glywed eu safbwyntiau.
Mae'r rhaglen hon yn hynod fuddiol i israddedigion talentog sydd mewn addysg neu ar fin cwblhau eu rhaglen israddedig drwy ddarparu pont i brofiad cyflogaeth gwerthfawr. Mae cyfleoedd i weithio o fewn timau deinamig a gallu cyfrannu'n gadarnhaol at brosiectau allweddol ar draws AaGIC yn atyniad allweddol y rhaglen hon, ynghyd â chyfle mentor i gefnogi'r interniaid i gymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau o fewn amgylchedd busnes.
Mae'r manteision i AaGIC hefyd yn sylweddol ac yn cynnwys atyniad talent, hyrwyddo'r sefydliad a GIG Cymru fel cyflogwr a budd ymchwil gyfoes, modelau newydd a safbwyntiau gan y genhedlaeth iau.
Dywedodd Amy Whitehead, Rheolwr Cymorth Rhaglen, sy'n arwain y rhaglen interniaeth yn AaGIC ,”rydym yn falch iawn o roi'r cyfle hwn i'n interniaid gael mewnwelediad i'r llwybrau gyrfa gwerth chweil ac amrywiol sydd ar gael yn GIG Cymru.
Fel corff gweithlu strategol rydym yn angerddol am ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a chyngor gyrfaol i weithlu'r dyfodol. Gobeithiwn y bydd yr amser a dreulir yn AaGIC yn annog ein interniaid i ddilyn rôl o fewn GIG Cymru”.