Neidio i'r prif gynnwy

Croeso cynnes i'n interniaid haf!

Cyhoeddedig: 30/07/2024

Ar 8 fed Gorffennaf ymunodd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe â ni am yr haf. Rydym yn falch iawn o'u croesawu i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r 15 myfyriwr wedi'u lleoli mewn adrannau ar draws y sefydliad gan gynnwys y tîm digidol, cynllunio a pherfformiad, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP), gwyddor gofal iechyd, nyrsio, optometreg, rhaglenni cenedlaethol, gweithlu'r dyfodol, pobl a chyfleusterau a gweithlu a datblygu sefydliadol.

Bydd y rhaglen interniaeth 8 wythnos yn golygu eu bod yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys marchnata digidol, cynaliadwyedd, cynllunio'r gweithlu a llwybrau gyrfa nyrsio er mwyn cael profiad gwerthfawr a mewnwelediadau i weithio i GIG Cymru.

Dros yr wythnosau nesaf bydd ein interniaid yn rhannu eu profiadau mewn blogiau ac ar wefannau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at glywed eu safbwyntiau.

Mae'r rhaglen hon yn hynod fuddiol i israddedigion talentog sydd mewn addysg neu ar fin cwblhau eu rhaglen israddedig drwy ddarparu pont i brofiad cyflogaeth gwerthfawr. Mae cyfleoedd i weithio o fewn timau deinamig a gallu cyfrannu'n gadarnhaol at brosiectau allweddol ar draws AaGIC yn atyniad allweddol y rhaglen hon, ynghyd â chyfle mentor i gefnogi'r interniaid i gymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau o fewn amgylchedd busnes.

Mae'r gwobrau i AaGIC hefyd yn sylweddol ac yn cynnwys atyniad talent, hyrwyddo'r sefydliad a GIG Cymru fel cyflogwr o ddewis, a budd ymchwil gyfoes, modelau newydd a safbwyntiau ffres a gafwyd drwy lens ein cenhedlaeth iau.

Mae Claire Monks, Rheolwr Rhaglen Arweinyddiaeth Graddedigion GIG Cymru ac Amy Whitehead Rheolwr Cymorth Rhaglen Diwylliant, Arweinyddiaeth ac Olyniaeth yn arwain y rhaglen interniaeth yn AaGIC a'n rhaglen rheoli i raddedigion. Dywedodd Claire, “rydym yn falch iawn o gynnig y profiad hwn i'n interniaid i rannu pa mor foddhaol ac amrywiol yw rolau o fewn GIG Cymru.”

Fel corff gweithlu strategol rydym yn angerddol am ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a chyngor gyrfaol i weithlu'r dyfodol. Gobeithiwn y bydd yr amser a dreulir yn AaGIC yn annog ein interniaid i ddilyn rôl o fewn GIG Cymru.