Mae Chrissy Love, Pennaeth Comisiynu Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Addysg gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd.
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth i gydnabod cyfraniadau rhagorol Chrissy i Addysg a Hyfforddiant Gwyddonwyr Gofal Iechyd ledled y DU drwy gynlluniau hyfforddi gwyddonol cenedlaethol.
Yn ei rôl yn AaGIC, mae Chrissy yn helpu i sicrhau bod gan sefydliadau iechyd yng Nghymru'r adnoddau addysg a hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gweithlu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod llwybrau dilyniant addas ar gyfer meysydd arbenigol o'r gweithlu gofal iechyd, sydd yn ei dro yn cefnogi datblygiad a chadw staff ar draws GIG Cymru.
Llongyfarchodd Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Comisiynu ac Ansawdd Addysg AaGIC, Chrissy:
"Mae Chrissy yn cael ei pharchu drwy'r Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG. Yn nyrs gymwysedig, mae Chrissy hefyd wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o broffesiynau Iechyd Perthynol a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn y pen draw, mae'n gwneud gwahaniaeth i allu cydweithwyr i ddatblygu gwasanaethau ymhellach ac yn sicrhau cynllunio olyniaeth gynaliadwy, ac mae hyn oll yn gwella canlyniadau a phrofiad ein cleifion."
Dywedodd Andy Irwin, Cyfarwyddwr neu Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
"Mae Chrissy wedi bod yn allweddol wrth gefnogi datblygiad hyfforddiant mewn Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol. Diolch i'w gwaith yn y maes hwn, erbyn hyn mae hyfforddeion Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) ym mhob un o'n harbenigeddau yng Nghymru. Llongyfarchiadau mawr i Chrissy am y wobr haeddiannol hon."
Ychwanegodd Dave Tyler, Pennaeth Diagnosteg Cardio-Pwlmonaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
"Llongyfarchiadau ar y wobr haeddiannol hon Chrissy. Ar ran y Gwyddorau Cardiaidd Anadlol a Chysgu yng Nghymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle i drosglwyddo ein diolch am sefydlu a gyrru'r rhaglen hyfforddi ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith mor gadarnhaol ar ein proffesiwn, nid yn unig o ran datblygu ein gweithlu Gwyddonwyr a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn ar gyfer datblygu tîm ond yn y pen draw'r gwelliannau y mae hyn yn eu gwneud i'r gwasanaethau y gallwn eu datblygu a'u darparu i'n cleifion."
Llongyfarchodd John Geen, Arweinydd Clinigol mewn Gwasanaeth Biocemeg Glinigol a Gwasanaeth Profi Pwynt Gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tag Morgannwg Chrissy:
"Mae Chrissy wedi bod yn eiriolwr gwych dros addysg a hyfforddiant gwyddor gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei chefnogaeth a'i brwdfrydedd wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu cyfleoedd gyrfa i Wyddonwyr Gofal Iechyd. Mae dyfarnu'r Gymrodoriaeth er Anrhydedd Addysg gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd yn haeddiannol iawn ac mae'n adlewyrchu gwerthfawrogiad y gymuned Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru, a thu hwnt."
Cyhoeddwyd 13 Gorffennaf 2023