Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn falch o gyhoeddi ail-lansio hyfforddiant Hawliau Plant NYTH diwygiedig ar Y Ty Dysgu, y platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru.
Mae'r cwrs hyfforddi yn cefnogi gweithredu’r Fframwaith NYTH Llywodraeth Cymru. Mae'r fframwaith yn offeryn cynllunio a myfyrio i'r rhai sy'n gweithio gyda, ac ar ran, babanod, plant a phobl ifanc. Ei nod yw sicrhau dull system gyfan ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd meddwl, lles a chymorth.
Fel rhan o ymrwymiad AaGIC i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel a chefnogi trawsnewid y gweithlu, Mae cwrs hyfforddi Hawliau Plant NYTH wedi'i ddatblygu i helpu i wella cefnogaeth iechyd meddwl a lles i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda babanod, plant neu bobl ifanc ym maes gofal cymdeithasol, iechyd neu'r sector gwirfoddol. Ac mae'n anelu at ddarparu'r canlynol i ddysgwyr:
Mae AaGIC wrth ei fodd yn ail-lansio hwn ac yn ymdrechu i gynnig y profiad dysgu mwyaf cyfoes i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.
Hyd yn hyn, mae dros 500 o weithwyr proffesiynol eisoes wedi cofrestru, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol:
"Fe wnes i fwynhau'r hyfforddiant yn fawr"
"Enghreifftiau diddorol iawn o sut roedd NYTH wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi cydgynhyrchu a datblygu gwasanaethau."
"Roedd lleisiau'r bobl ifanc yn rhan o'r hyfforddiant yn ddefnyddiol i mi, a'r holl wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud ganddyn nhw a gyda nhw."
Ewch i Y Tŷ Dysgu am ragor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau hyfforddi iechyd meddwl sydd ar gael. Ac ewch i wefan AaGIC i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ehangach.