Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi gofal gwell: Hyfforddiant newydd yn hybu ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta ledled Cymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnig cwrs e-ddysgu newydd, Cyflwyniad i Anhwylderau Bwyta: Lefel Sylfaen 1, ar Y Ty Dysgu, y platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru.

Datblygwyd y cwrs gan AaGIC a Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Cymru ar gyfer Anhwylderau Bwyta, gyda chynnwys a gynhyrchwyd yn wreiddiol mewn partneriaeth rhwng GIG Lloegr, BEAT (Elusen anhwylderau bwyta'r DU), a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.

O fewn pythefnos , mae'r cwrs wedi denu dros 140 o gofrestriadau - tystiolaeth o'r galw cynyddol am hyfforddiant arbenigol yn y maes hwn ac mae'n gwrs sy'n tyfu gyflymaf hyd yma gan AaGIC.

Crëwyd y cwrs hwn i helpu gweithlu'r sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol ar bob lefel i ddeall anhwylderau bwyta'n well, adnabod yr arwyddion, a gwybod sut i gyfeirio pobl at y cymorth a'r gefnogaeth gywir. Mae'r nifer cryf o bobl sy'n manteisio ar y cymorth hwn yn dangos ymrwymiad clir ar draws y sector i wella gwybodaeth a gofal i gleifion yr effeithir arnynt.

Mae'r adborth yn gadarnhaol, gyda llawer o ddysgwyr yn canmol y cwrs:

Mae gen i well dealltwriaeth nawr o sut i ymdrin â’r pwnc hwn wrth siarad â chleifion.” 

“Mae gen i ddealltwriaeth well nawr o’r nifer o anhwylderau bwyta gwahanol a sut y gallant ymddangos yn ymarferol.

Fel rhan o ymrwymiad AaGIC i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, mae'r cwrs hyfforddi wedi'i ddatblygu i ddarparu'r profiad dysgu mwyaf cyfoes i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.

Ewch i'r Ty Dysgu i ddysgu mwy.