Neidio i'r prif gynnwy

Cedron Sion - ein prentis Cymraeg yn ennill Gwobr

Cynhaliwyd Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2023 yn ddiweddar ac mae Cedron Sion, ein Cyfieithydd Cymraeg, wedi ennill y wobr ganlynol am ei waith yn cwblhau Agored Cymru: Tystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer a gynigir gan Coleg Gŵyr Abertawe.

Gwobr Elaine McCallion - Myfyriwr Hyfforddiant GCS y Flwyddyn – Cedron Sion

Einir-Wyn Hawkins, cydlynydd masnachol ac asesydd Coleg Gŵyr Abertawe a enwebodd Cedron ar gyfer y wobr hon, ac ysgrifennodd amdano;

"Mae Cedron Sion yn brentis uwch rhagorol".

"Yn ystod y pandemig, cafodd ei recriwtio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a dechreuodd Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu drwy gyflwyno o bell. Wnaeth Cedron ffitio'n gyflym iawn i'r tîm cyfieithu yn AaGIC, er iddo weithio gartref yng Ngogledd Cymru y rhan fwyaf o'r amser.

Fel ei aseswr, roedd yr ymchwil fanwl a gynhaliwyd ganddo i gwmpasu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth yn rhan o'r NVQ wedi creu argraff fawr arnaf, ac roedd ansawdd ei waith Cymraeg ysgrifenedig yn wirioneddol anhygoel heb unrhyw wallau gramadegol o gwbl.

O'r cychwyn cyntaf gwnaeth rheolwyr AaGIC sylwadau ar ei ymrwymiad ac ansawdd uchel ei waith cyfieithu hefyd.

"Dyma lwybr newydd a chyffrous i yrfa fel cyfieithydd," meddai Bethan Davis, Rheolwr Cyfieithu AaGIC. "Gall pobl o bob oed ddod i mewn i'r rôl, gan wybod y byddan nhw'n cael y gorau o hyfforddiant yn ogystal â chymhwyster a gydnabyddir yn eang ar ei ddiwedd - tra'n dysgu ac ennill cyflog "wrth weithio". Mae'n enghraifft wych arall o'r fenter HyfforddiGweithioByw yma yn AaGIC, ac mae'n dangos bod gyrfaoedd cynaliadwy yn y GIG y tu hwnt i rai clinigol yn unig."

Mae'r cwrs hwn fel arfer dros 24 mis, ond cwblhaodd Cedron yn llwyddiannus o fewn 18 mis.

Yn ystod ei gwrs bu Cedron hefyd yn cynrychioli Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel Llysgennad Prentisiaethau Cymru - mae wedi bod yn llysgennad gwych ac mae wedi cyfrannu'n gadarnhaol at lawer o straeon cysylltiadau cyhoeddus ac mae bob amser wedi bod yn hapus i gael ei gyfweld ac mae hefyd wedi cymryd rhan mewn fideos i hyrwyddo prentisiaethau a'r Gymraeg yn y gweithle.

Llongyfarchiadau mawr i Cedron.

 

Cyhoeddwyd 12 Gorffennaf 2023