Dwy flynedd ar ôl diwygio’r contract ym mis Hydref 2023, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol: Mae 210 o optometryddion ac 14 optegydd lensys cyffwrdd bellach wedi cwblhau Achrediad Ymarferwyr Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) yn llwyddiannus.
Mae'r cynnydd parhaus hwn yn nodi cam sylweddol i ofal llygaid sylfaenol yng Nghymru. Mae’r achrediad yn darparu cyflwyniad strwythuredig a chefnogol i optometreg yng Nghymru ar gyfer ymarferwyr sydd naill ai'n dechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru neu'n symud o rywle arall yn y DU. Mae'r rhaglen yn cynnwys dysgu ar-lein, gweithdy clinigol ymarferol a sesiwn adolygu gan gymheiriaid, gan sicrhau bod clinigwyr newydd yn hyderus, yn wybodus ac yn barod am y gweithlu o'r diwrnod cyntaf.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo'n barod i ddarparu gofal o ansawdd uchel o fewn eu cymunedau,” meddai Nik Sheen, Cyfarwyddwr Cyswllt Optometreg. “Mae proses achredu symlach ac ymatebol yn golygu bod cleifion yn elwa o ofal lleol, amserol a ddarperir gan glinigwyr hyderus, â chefnogaeth dda.”
Mae arolwg diweddar yn dangos effaith gref y cynllun. Mae 93% o ymatebwyr achrededig wedi mynd ymlaen i ddarparu gwasanaethau WGOS 1 a 2, gan gyfrannu'n uniongyrchol at fwy o fynediad at ofal llygaid cymunedol ledled Cymru. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn graddio'r rhaglen yn uchel, gan ei sgorio’n 4.71 allan o 5 seren ar gyfartaledd am effeithiolrwydd a chefnogaeth.
Mae digwyddiadau achredu bellach yn cael eu cynnal bob 5—7 wythnos, gan helpu i gynnal piblinell gyson o ymarferwyr hyfforddedig i ddiwallu anghenion gofal sylfaenol cynyddol Cymru. Mae AaGIC wedi tynnu sylw at y ffaith bod sicrhau bod clinigwyr yn teimlo 'n barod yn hanfodol i gyflawni uchelgeisiau Cymru Iachach a'r Dull gweithredu ar gyfer gwasanaethau optometreg yn y dyfodol , sy'n ceisio symud gofal yn nes at gartref a lleihau'r pwysau ar glinigau llygaid ysbyty.
Mae adborth ymarferwyr yn adlewyrchu gwerth yr hyfforddiant:
Adleisiodd Tiwtoriaid Arweiniol AaGIC y teimlad hwn:
“Mae'n hynod werth chweil cefnogi ymarferwyr wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru. Mae llawer yn ymuno gyda chwestiynau neu bryderon, ac mae'n wych clywed faint mae eu hyder yn tyfu. Mae gweld gymaint yn ymarfer yng Nghymru yn fesur gwirioneddol o lwyddiant y rhaglen.”
I gael rhagor o wybodaeth am Achrediad Ymarferwyr WGOS, gall ymarferwyr gysylltu â HEIW.Optometry@wales.nhs.uk.