Rydym wedi cael gwybod gan Ffederasiwn Coleg Brenhinol y Meddygon yn y DU eu bod wedi nodi gwall yn eu prosesau data mewnol.
Mae hyn wedi arwain at 222 o feddygon yn y DU yn cael gwybod yn anghywir eu bod wedi pasio arholiad sy'n rhan o becyn asesu llawer ehangach a gynhaliwyd yn ystod hyfforddiant.
Rydym yn gweithio'n agos ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod unrhyw feddyg yr effeithir arno yn cael ei gefnogi a gyda darparwyr gofal iechyd i sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn gallu parhau i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion.
Gall y meddygon hynny yr effeithir arnynt gael cymorth drwy sawl llwybr:
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r ffederasiwn i ddeall yr hyn sydd wedi digwydd a byddwn yn darparu arweiniad yr wythnos nesaf i bob meddyg yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol.