Cyhoeddwyd 04/10/2023
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi lansiad Cynllun Cadw Nyrsys ar gyfer GIG Cymru - 'Cadw a gwerthfawrogi nyrsys yn y GIG yng Nghymru: cynllun cadw nyrsys’ gyda'r nod o sicrhau llesiant a thwf proffesiynol ein nyrsys anhygoel.
Yn agoriad y digwyddiad, dywedodd Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Addysg Nyrsio ac Iechyd Proffesiynol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru,
"Mae ein Nyrsys yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau, gan weithio'n ddiflino i ddarparu gofal o safon i boblogaeth Cymru. Rydym yn cydnabod yr heriau sy'n eu hwynebu, a'r nod yw'r cynllun hwn yw galluogi sefydliadau i ddatblygu gwelliannau cynaliadwy ar gyfer cadw ein gweithlu nyrsio'.
Nid niferoedd yn unig yw cadw, ac rydym wedi datblygu cyfres o adnoddau (canllaw cadw, adnodd hunanasesu a chynllun) mewn partneriaeth â chydweithwyr gwasanaeth, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Llywodraeth Cymru. Bydd sefydliadau'r GIG yn defnyddio'r adnoddau hyn i gefnogi eu cynlluniau cadw lleol ymhellach.
Beth mae ein Cynllun Cadw Nyrsys yn ei gynnwys?
Mae'n cynnwys cyngor ar arweinyddiaeth dosturiol, gweithio hyblyg a chydbwysedd bywyd gwaith, datblygiad proffesiynol parhaus, a lles ein nyrsys.
Mae lles corfforol, emosiynol a seicolegol ein nyrsys yn bwysig, ac rydym yn deall pwysigrwydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae ein cynllun yn cynnwys camau gweithredu i sefydliadau ddatblygu diwylliant tosturiol hyblyg.
Er mwyn cefnogi gweithredu rhaglen gadw GIG Cymru mae AaGIC wedi cynnig cymorth ariannol i sefydliadau ar gyfer swydd Arweinydd Cadw am hyd at 24 mis, er mwyn hybu adnoddau presennol. Pwrpas yr Arweinydd sefydliadol hwn fydd datblygu cynlluniau cadw lleol sy'n bodloni gofynion a blaenoriaethau sefydliadol ar gyfer y gweithlu ehangach. Bydd AaGIC hefyd yn cefnogi'r arweinwyr cadw drwy rwydwaith proffesiynol i rannu arfer da.
Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru
Rwy'n falch iawn o fod wedi cefnogi datblygiad y Cynllun Cadw Nyrsys a'r adnoddau cysylltiedig a fydd yn cefnogi, tywys a galluogi sefydliadau i gadw eu staff presennol sy'n weithlu Cymru ar gyfer heddiw, yfory ac ar gyfer y dyfodol.
Mae cefnogi pob sefydliad i gyflawni'r cynllun yn hanfodol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gwaith ein gweithlu.
Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr RCN Cymru,
"Mae cadw'r gweithlu nyrsio yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer GIG cynaliadwy a ffyniannus. Nid yn unig y mae'n rhaid i ni feithrin gwybodaeth a phrofiad amhrisiadwy staff nyrsio sy'n gwasanaethu ers amser maith, ond hefyd sicrhau nyrsys newydd gymhwyso bod nyrsio wir yn yrfa am oes. Mae'r Cynllun Cadw Nyrsys yn gam hanfodol i wella cadw gweithlu heddiw a'r dyfodol ac mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu gweithredu'n brydlon."