Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi lansio menter beilot lleoliad arweinyddiaeth myfyrwyr ar gyfer y Proffesiwn Perthynol i Iechyd (AHP), sy’n dechrau ym mis Medi 2025.
Wedi'i gyflwyno mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, bydd y peilot yn gweld dau fyfyriwr ffisiotherapi cyn-gofrestru yn cwblhau lleoliad 4 wythnos ym mhencadlys AaGIC yn Nantgarw. Bydd y lleoliad yn canolbwyntio ar brosiect sy'n cyd-fynd â'r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol, gan gynnig cyfle gwych i fyfyrwyr feithrin sgiliau arweinyddiaeth hanfodol wrth gyfrannu at ddatblygiadau iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd cyfranogwyr hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gan ennill profiad sy'n cael effaith wirioneddol a pharhaol.
Mae Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu galluoedd arweinyddiaeth ar bob lefel er mwyn gwella profiadau gofal unigolion a chymunedau yn barhaus. Mae AaGIC yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Yn unol â'i flaenoriaeth strategol i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, bydd y lleoliad ymarferol hwn yn cefnogi myfyrwyr i feithrin eu hyder a datblygu sgiliau ymarferol trwy brofiadau yn y byd go iawn.
Bydd lleoliad dysgu seiliedig ar ymarfer AaGIC yn:
Mae'r cynllun peilot hwn yn nodi'r cam cyntaf wrth greu model ar gyfer lleoliadau arweinyddiaeth cynaliadwy o ansawdd uchel a bydd y mewnwelediadau a geir ohono yn llywio modelau lleoliadau yn y dyfodol ar draws AaGIC a sefydliadau eraill sydd â diddordeb.
Cysylltwch â Thîm Addysg Ymarfer AHP i gael gwybod mwy.