Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliwch yrfaoedd cyffrous GIG Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2025 - Eich GIG. Eich gyrfa. Eich dyfodol.

Beth bynnag fo'ch oedran a'ch profiad, mae GIG Cymru yn opsiwn gyrfa i'w ystyried! Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, fe'ch anogir i ymweld ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Sioe Frenhinol Cymru eleni i ddarganfod yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil sydd ar gael ar draws GIG Cymru.

Bydd AaGIC – corff gweithlu cenedlaethol GIG Cymru, yn arddangos yn Stondin 365-C o 21–24 Gorffennaf 2025, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector iechyd a gofal. Mae croeso i ymwelwyr o bob oed ddysgu mwy am y 350+ o lwybrau gyrfa o fewn y GIG – o rolau rheng flaen ac adnabyddus fel parafeddygon, fferyllwyr, nyrs theatr ac ymwelydd iechyd i wasanaethau hanfodol gan gynnwys gweinyddiaeth, ystadau, cyllid, trydanwr, saer coed/jeiner, arlwyo a llawer mwy. Mae yna rhywbeth i bawb!

Dywedodd Helen Watkins, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn AaGIC: “Y GIG yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gyda dros 110,000 o staff ar draws ystod eang o broffesiynau. Rydym yn falch o hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnig cyfleoedd cyfartal i bawb—waeth beth fo'u hoedran, rhyw, anabledd, hil neu gefndir. Gyda chymaint o rolau hanfodol yn cefnogi iechyd a lles ein cenedl, mae'n hanfodol ein bod yn helpu pobl i ddarganfod y llwybrau gyrfa hyn a'r cyfle i wneud effaith ystyrlon yn eu cymunedau.”

Efallai na fydd llawer o unigolion yn ystyried y GIG fel opsiwn gyrfa i ddechrau, ond gall y sgiliau a enillir yn yr ysgol, mewn swyddi blaenorol, neu mewn profiadau bywyd fod yn werthfawr iawn. P'un a ydych chi'n ystyried TGAU a Lefel A, yn gadael yr ysgol, yn raddedig o'r brifysgol, yn newid gyrfa neu'n fyfyriwr aeddfed, mae llwybrau clir a chefnogol i rolau yn y GIG.

Mae gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar y rôl. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer rhai swyddi, tra bod angen pedwar neu bum TGAU (graddau 9-4/AC) fel arfer ar gyfer swyddi iau. Gall rolau mwy uwch ofyn am gymwysterau Lefel A, graddau neu gymwysterau cyfatebol.

Mae GIG Cymru hefyd yn cynnig Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru a all eich cefnogi ar raglenni gradd cyn-gofrestru gofal iechyd ac sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gofal iechyd penodol sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio. Yn ogystal, mae GIG Cymru yn darparu cyfleoedd prentisiaeth sy'n caniatáu i unigolion ennill wrth ddysgu. Mae prentisiaethau’n cynnig profiad ymarferol ochr yn ochr â chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae llawer o rolau fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn cynnig dysgu ymarferol, seiliedig ar waith ar draws amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys iechyd meddwl, gwasanaethau plant, a gofal cyffredinol, ac mae opsiynau dysgu hyblyg fel graddau rhan-amser hefyd ar gael i'r rhai sydd â theuluoedd ifanc neu gyfrifoldebau eraill. Mae'r swyddi hyn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau cleifion heb o reidrwydd fynd trwy lwybrau academaidd llawn amser traddodiadol.

Er nad yw siarad Cymraeg yn ofyniad ar gyfer gweithio yn GIG Cymru, mae'n cael ei gydnabod fel sgil werthfawr yn enwedig wrth ymgysylltu â chleifion a chydweithwyr sy'n siarad Cymraeg. Gall hyd yn oed dealltwriaeth sylfaenol o'r iaith wella profiad a chyfathrebu cleifion yn fawr. Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae'n cefnogi staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg. 

Mae AaGIC yn gwahodd pob ymwelydd i alw heibio i'w stondin yn ystod Sioe Frenhinol Cymru i archwilio sut y gallai dyfodol yn GIG Cymru fod yn addas i chi.

https://www.nhs.wales/