Mae meddygfeydd teulu ledled Cymru yn cael eu hannog i ymuno â rhwydwaith cynyddol o ddarparwyr gofal iechyd sydd wedi ymrwymo i gefnogi cyn-bersonél milwrol a phresennol drwy ddod yn Feddygfeydd wedi Achredu i fod yn Gyfeillgar i Gyn-filwyr.
Mae'r achrediad pwysig hwn, a weinyddir gan yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn AaGIC a Llywodraeth Cymru, yn cydnabod meddygfeydd teulu sy'n mynd yr ail filltir i ddarparu gofal arbenigol wedi'i deilwra i anghenion cyn-filwyr a'u teuluoedd. Gall cyn-filwyr ddod o hyd i bractis achrededig gerllaw drwy ymweld â'n gwefan lle mae 57 o bractisau yng Nghymru eisoes wedi'u hachredu. Mae'r rhaglen yn rhan o ymdrech ehangach i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a gwella mynediad at ofal iechyd priodol i'r rhai sydd wedi gwasanaethu.
I ennill achrediad, rhaid i glinigwr enwebedig yn y practis gwblhau'r modiwl Iechyd a Llesiant Cyn-filwyr, sy'n cynnwys:
Yn arbennig, mae agweddau olaf y modiwl yn gofyn am ddatganiad gan y clinigwr yn cadarnhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi'u gweithredu yn y practis.
Dywedodd Dr Chris Price, Pennaeth RSU “Mae cyn-filwyr yn aml yn wynebu heriau iechyd unigryw sy’n gysylltiedig â’u hamser yn y gwasanaeth, a’n nod yw sicrhau eu bod yn derbyn y gydnabyddiaeth a’r gofal y maent yn ei haeddu. Mae dod yn Feddygfa sy'n Gyfeillgar i Gyn-filwyr yn arwydd clir o gefnogaeth eich meddygfa i gymuned y Lluoedd Arfog.”
Gall meddygfeydd teulu sydd â diddordeb mewn ymuno â'r fenter hon ddechrau'r broses heddiw a sefyll ochr yn ochr â'u cyfoedion i greu amgylchedd gofal iechyd mwy cynhwysol a deallus i gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Am ragor o wybodaeth am sut i gael eich achredu, ewch i Achredu Meddygfeydd Teulu i ddod yn Gyfeillgar i Gyn-filwyr yng Nghymru - AaGIC neu cysylltwch â heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk.