Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio adnodd cymorth iechyd meddwl newydd ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol brys amlbroffesiynol ledled GIG Cymru.
Mae'r adnodd yn darparu mynediad canolog i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n gweithio o fewn gofal sylfaenol brys at offer a chanllawiau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i helpu i asesu ac ymateb yn effeithlon i bryderon iechyd meddwl cleifion.
Wedi'i gynllunio i gefnogi'r tîm gofal sylfaenol brys cyfan, gan gynnwys, ymarferwyr cyffredinol (meddygon teulu), uwch ymarferwyr, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, bydd yr adnodd yn helpu i wella sut mae pryderon iechyd meddwl yn cael eu cydnabod a'u rheoli, gan gefnogi ymyrraeth gynharach a gofal mwy cyson i'r rhai sy'n ceisio cymorth.
Mae'r lansiad hwn, sydd ar gael am ddim ar borth y Tŷ Dysgu AaGIC ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn nodi'r cyntaf mewn cyfres arfaethedig o adnoddau cefnogol ar gyfer y tîm gofal sylfaenol brys. Bydd adnoddau ychwanegol sy'n cwmpasu meysydd allweddol, gan gynnwys iechyd menywod a phediatreg, ar gael ar Y Ty Dysgu dros y misoedd nesaf.
Mae'r fenter yn rhan o'r Fframwaith Ymarferwyr Gofal Sylfaenol Brys, a grëwyd i gefnogi'r tîm gofal sylfaenol brys amlbroffesiynol i ddatblygu eu sgiliau, monitro cynnydd, a chysylltu â chydweithwyr ledled Cymru i rannu arfer gorau.
Dywedodd Hilary Ryan, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys yn AaGIC:
"Mae ein hadnodd newydd wedi'i greu i wella ansawdd ymarfer gofal brys ac mae'n cynnwys offer addysgol dibynadwy sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau hyderus ac amserol.
"O brysbennu i asesu a thriniaeth, mae'r adnodd hwn llawn cynnwys hygyrch, o ansawdd uchel i helpu'r tîm gofal sylfaenol brys i ddatblygu eu sgiliau a gwneud i bob cyswllt gyfrif. Mae eich ymrwymiad yn haeddu adnoddau sy'n gweithio yr un mor galed â chi.''
Dywedodd Bianca Oakley, Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gofal Brys yr un diwrnod ac Allgymorth – Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda:
"Mae adnodd fel hyn yn cael ei groesawu'n fawr. Gall gofal sylfaenol brys fod yn amgylchedd dan bwysau enfawr, a bydd cael offer clir, hygyrch ar flaenau ein bysedd yn cefnogi'r ffordd yr ydym yn asesu ac yn ymateb i anghenion iechyd meddwl cleifion."
I gael mynediad at yr adnodd iechyd meddwl newydd, ewch i blatfform addysgol ar-lein AaGIC, Y Tŷ Dysgu.