Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad i'r Cyfryngau: Swyddi Nyrsio Oedolion

Dyddiad: 24 Hydref 2025

Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynau Iechyd ac Ansawdd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru 

“Rydym yn ymwybodol bod llawer o fyfyrwyr nyrsio wedi bod yn bryderus oherwydd y diffyg swyddi nyrsio oedolion sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar adeg lansio Rhaglen Symleiddio i Fyfyrwyr eleni. Rydym am gydnabod hyn a mynegi pa mor flin rydym am y pryder y mae wedi'i achosi ar bwynt mor bwysig yn hyfforddiant myfyrwyr.  

Mewn ymateb, rydym yn ymestyn y ffenestr ymgeisio am symleiddio er mwyn rhoi mwy o amser i archwilio atebion ychwanegol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Bae Abertawe a sefydliadau perthnasol eraill i nodi a chyhoeddi swyddi gwag pellach. 

Os nad oes digon o swyddi ar gael, ni fydd myfyrwyr yn destun amodau Bwrsariaeth GIG Cymru. 

Rydym wedi ysgrifennu at fyfyrwyr drwy brifysgolion i geisio lleddfu pryderon ac byddwn yn parhau i rannu’r holl wybodaeth berthnasol gyda nhw.

Ein blaenoriaeth yw cefnogi pob graddedig nyrsio i gael eu cyflogi ar adeg cofrestru, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd i sicrhau bod hynny'n digwydd.”