Mae academi ddysgu digidol genedlaethol, a gynlluniwyd i gryfhau addysg a hyfforddiant patholeg, wedi’i lansio yng Nghymru.
Mae Academi Patholeg Cymru, a ddatblygwyd gan Raglen Patholeg Genedlaethol Cymru, yn darparu adnoddau hyfforddi canolog a mynediad ehangach i addysg ddigidol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau patholeg.
Cefnogodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y fenter drwy gynnal yr Academi newydd ar ei llwyfan dysgu digidol cenedlaethol, Y Tŷ Dysgu.
Mae patholeg yn sail i bob agwedd ar ofal cleifion, o brofion diagnostig a chanllawiau triniaeth i ddefnyddio technolegau arloesol. Drwy ddarparu addysg strwythuredig, hyfforddiant o ansawdd uchel a chyfleoedd datblygiad proffesiynol rheolaidd, bydd yr Academi yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gweithlu patholeg Cymru yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal cleifion diogel, effeithiol a modern.
Mae'r Academi yn agored i'r gweithlu patholeg a gwyddor labordy cyfan, gan gynnwys israddedigion, hyfforddeion, gweithwyr cymorth labordy ac ymarferwyr cysywllt, gwyddonwyr biofeddygol, gwyddonwyr clinigol, clinigwyr, ymgynghorwyr, rheolwyr labordy ac arweinwyr hyfforddiant.
Dywedodd Luke Hughes, Rheolwr Datblygu Academi Patholeg Cymru yn y Rhaglen Patholeg Genedlaethol:
“Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu lansio Academi Patholeg Cymru yn unol â'n cynllun datblygu. Gwyddom nad yw mynediad at hyfforddiant bob amser wedi bod yn gydradd ledled Cymru ac mae hyn wedi creu heriau gwirioneddol i'n gweithlu. Academi Patholeg Cymru yw ein datrysiad. Mae cynnal yr Academi ar Y Tŷ Dysgu wedi ein galluogi i ddatblygu'n gyflym a gwneud adnoddau o werth yn hygyrch ledled Cymru.
“Rwy'n ddiolchgar i dîm digidol AaGIC am eu cefnogaeth i gael y safle'n fyw ac i'r IBMS am ariannu'r prosiect drwy'r grant addysg. Rwyf hefyd eisiau cydnabod y Grŵp Arweinwyr Hyfforddiant Patholeg, am eu gwaith gwreiddiol i wneud yr Academi yn bosibl. Maent yn datblygu adnoddau, yn cefnogi ymgeiswyr, ac yn ymgymryd â marcio yn aml yn eu hamser eu hunain. Mae'r Academi o'r diwedd yn rhoi llwyfan cenedlaethol i ni arddangos y gwaith hwn.
“Dim ond y cam cyntaf yw'r lansiad hwn. Mae gennym fwy i'w wneud, ac mae sawl ffrwd waith eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â blaenoriaethau hyfforddi ledled Cymru wrth i ni barhau i adeiladu'r cymorth addysg a datblygu i'n gweithlu.”
Dywedodd Claire Hammond, Rheolwr Rhaglen y Gweithlu ar gyfer Gofal wedi’i gynllunio, Canser a Diagnosteg yn AaGIC:
“Roedd creu hyb adnoddau canolog, hygyrch i bawb sy'n cefnogi gwasanaethau patholeg yn gamau allweddol o fewn Cynllun Gweithlu Diagnosteg ar gyfer GIG Cymru, a ddatblygwyd gennym mewn cydweithrediad â Chynllunio a Pherfformiad y GIG a'r rhaglenni Delweddu, Patholeg, Endosgopi a Gwyddor Gofal Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru.
“Mae Academi Patholeg Cymru yn adnodd hanfodol i'r gweithlu patholeg, ac rydym yn falch iawn o gefnogi ei lansiad drwy Y Ty Dysgu. Mae'r platfform digidol effeithlon hwn yn cefnogi ein blaenoriaeth strategol i adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol ac i darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Academi Patholeg Cymru yn gwasanaethu fel model ac yn ysbrydoli hybiau dysgu tebyg ar draws meysydd eraill o ymarfer gofal iechyd yng Nghymru.“
Mae'r Academi ar gael nawr ar Y Tŷ Dysgu. Gall defnyddwyr gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim yn:
https://ytydysgu.heiw.wales/