Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio Arsyllfa Gweithlu Newydd

Mae Cymorth ar gyfer Cynllunio’r Gweithlu ar gyfer GIG Cymru bellach yn haws diolch i lansiad Arsyllfa Gweithlu newydd, a sefydlwyd gan AaGIC.

Mae’r Arsyllfa wedi’i chreu i allu cyrchu amrywiaeth o offer ac adnoddau yn hawdd a fydd yn helpu i gynllunio’r gweithlu ledled Cymru.

Mae adborth gan randdeiliaid wedi amlinellu er bod gwybodaeth wedi bod ar gael, nid yw bob amser wedi bod yn hawdd dod o hyd iddi.  Fel yr amlinellodd Clem Price, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Cynllunio Gweithlu Strategol.

“Rydym wedi creu rhai adnoddau gwych i gefnogi cynllunwyr a rheolwyr, ond wedi cael gwybod nad yw staff yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt.  Rydym wedi creu Arsyllfa’r Gweithlu i ddiwallu’r angen hwn, ac i ddarparu’r cymorth y gwyddom sydd ei angen ar y gwasanaeth.”

Mae'r Arsyllfa yn dod â gwybodaeth ynghyd, trwy wefan AaGIC, wedi'i rhannu'n adrannau syml i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch.

Mae’r arsyllfa ar gael i’r cyhoedd, ond mae rhannau o’r datblygiad yn hygyrch i staff GIG Cymru yn unig.

Mae'r porth data a dadansoddeg ar gael drwy'r arsyllfa ac mae hwn ar gael i staff edrych ar nifer o ddangosfyrddau hunanwasanaeth.

Mae cymuned ymarfer hefyd wedi'i chynllunio i ddarparu hyfforddiant ar-lein i staff i gefnogi cynllunio'r gweithlu, offer hunanasesu i asesu lefel sgiliau presennol a llyfrgell wedi'i churadu sy'n cadw ymchwil a dogfennau gan sefydliadau trydydd parti.

Dywedodd Maxine Pring, Rheolwr Gweithlu Strategol “Rydym yn gwybod pa mor brysur yw staff yn y gwasanaeth.  Bydd ein cymuned ymarfer yn caniatáu i staff gwblhau dysgu a datblygu fesul cam ar gyflymder sy’n addas i’w hanghenion.”