Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn Gwella Ansawdd Gofal ledled Cymru drwy Efelychu

Mae efelychu yn offeryn dysgu sy'n cefnogi datblygiad trwy ddysgu profiadol trwy greu neu atgynhyrchu set benodol o amodau sy'n debyg i sefyllfaoedd bywyd go iawn.  Dylai efelychu ddarparu amgylchedd diogel lle gall cyfranogwyr ddysgu yn sgil eu camgymeriadau heb beryglu cleifion mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn galluogi unigolion i ddadansoddi ac ymateb i'r sefyllfaoedd realistig hyn, gyda'r nod o ddatblygu neu wella eu gwybodaeth a'u sgiliau. (Hawker et Al. 2022)

Mae AaGIC yn anelu at gyfrannu'n ystyrlon at lunio a chryfhau ymarfer efelychu ledled Cymru, gan arwain ar ddatblygiad gweithlu iechyd a gofal hyfforddedig iawn sy'n gallu darparu gofal o ansawdd uchel, diogel a chynaliadwy ledled Cymru.

Mae Tîm Efelychu AaGIC yn gweithio ochr yn ochr â'r gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu efelychu o ansawdd uchel, sy'n hygyrch yn deg ac yn rhyngbroffesiynol, gan hyrwyddo cydweithio a dysgu ar y cyd.

Fframwaith Gwella Ansawdd drwy Efelychu

Mae efelychu wedi cael ei ddefnyddio ym maes iechyd a gofal ers blynyddoedd lawer gyda'i ehangder o gymhwysedd yn esblygu dros amser gan gynnwys ar gyfer hyfforddiant, addysg, gwella ansawdd, arloesi ac ymchwil ymhlith meysydd eraill.  Datblygwyd y ddogfen hon i fynd i'r afael â'r angen am fframwaith hawdd ei ddefnyddio ar sut i ddatblygu ymateb yn seiliedig ar efelychu ar gyfer gwelliant yn dilyn digwyddiadau allweddol mewn gofal iechyd yn seiliedig ar egwyddorion Gwella Ansawdd.

Mae'r fframwaith yn darparu canllaw cam wrth gam ar gyfer dylunio ymyriadau sy'n seiliedig ar efelychu i wella diogelwch cleifion, gan gynnwys cynllunio ar gyfer pwy sydd angen bod yn rhan, beth sydd angen ei wneud, sut y bydd efelychu'n cyfrannu a sut y dylid rhannu dysgu. Arweiniwyd y gwaith hwn gan arbenigwyr amlbroffesiynol AaGIC mewn efelychu a Gwella Ansawdd, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas ar gyfer Ymarfer Efelychu mewn Gofal Iechyd (ASPiH), y Gymdeithas ar gyfer Efelychu yn Ewrop (SESAM) a Gwelliant Cymru. Arweiniodd hyn at gasglu safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol a gyfrannodd at y fframwaith.

Nod y fframwaith yw bod yn ddefnyddiol i unrhyw un yn y gymuned iechyd a gofal sy'n dymuno bod yn rhan o ddatblygu ymateb efelychu yn dilyn digwyddiad neu, yn ehangach, mewn gwelliant gan ddefnyddio efelychu.

Rhaglen Datblygu'r Gyfadran

Datblygwyd y Rhaglen Datblygu’r Gyfadran Efelychu yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r gymuned efelychu iechyd a gofal ledled Cymru. Nod y rhaglen yw darparu hyfforddiant safonol sy'n cyd-fynd â safonau efelychu cenedlaethol ASPiH, gan gefnogi ymarferwyr efelychu i ddarparu gweithgareddau efelychu cyson o ansawdd uchel.  Mae'r rhaglen yn defnyddio dull cymysg o ddysgu cydamserol ac anghydamserol, ar-lein ac wyneb yn wyneb i sicrhau hyblygrwydd a hygyrchedd i'r rhaglen.

Mae'r rhaglen yn cynnwys tair haen; Hanfodol, Uwch ac Arbenigol. Lansiwyd y Cwrs ‘Hanfodol’ Datblygu’r Gyfadran cyntaf ym mis Hydref 2022 ac ers ei sefydlu, mae 227 o staff gofal iechyd wedi cael eu hyfforddi.  Mae'r Cwrs ‘Uwch’ Datblygu’r Gyfadran wedi'i gwblhau'n ddiweddar a disgwylir iddo gael ei lansio yng Ngwanwyn 2026. Yr haen 'Arbenigol' yw'r haen olaf i'w datblygu a bydd ar gael maes o law. 

Gwella hygyrchedd at adnoddau efelychu

Mae'r Tîm Efelychu wedi creu amrywiaeth o adnoddau ar-lein dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) i gefnogi a sicrhau ansawdd gweithgareddau ac ymarfer sy'n seiliedig ar efelychu. Mae'r adnoddau hyn wedi cael eu datblygu a'u llunio gan gyfraniadau gan gydweithwyr efelychu ledled Cymru a thu hwnt. Maent yn cynnwys templed ysgrifennu senario, dull ô-drafod strwythuredig, gwe-seminarau wedi'u recordio, a deunyddiau o'r gynhadledd efelychu flynyddol. Mae storfa ar-lein hefyd ar gael ar gyfer rhannu senarios efelychu o bob cwr o Gymru, ac mae'r tîm yn gobeithio y bydd yn tyfu dros amser.

Dyfyniad gan Sara-Catrin Cook, Deon Cyswllt ar gyfer Efelychu a Sgiliau Clinigol (ac Arweinydd y Prosiect): “Rydym ni yn Nhîm Efelychu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn falch iawn o allu cefnogi ein cydweithwyr gyda’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo ledled Cymru i ehangu mynediad at adnoddau sy’n cefnogi efelychiadau gofal iechyd rhyngbroffesiynol o ansawdd uchel, trwy ddull colegol a chydweithredol.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: 📧 HEIW.Simulation@wales.nhs.uk