Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn croesawu rheoleiddio

Mae AaGIC yn croesawu rheoleiddio'r rolau cydymaith meddygol (PA) a chydymaith anaesthesia (AA) gan y GMC, sy'n dechrau heddiw (13 Rhagfyr 2024). 

Mae hwn yn gam pwysig o ran rhoi sicrwydd i gleifion, meddygon, cyflogwyr, PAs ac AAs fel ei gilydd.

Rydym hefyd yn croesawu'r adolygiad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, a fydd yn rhoi eglurder pellach ynghylch y rolau hyn.

Bydd AaGIC yn parhau i gydweithio â phartneriaid a chydweithwyr PA/AA ledled Cymru i ymgorffori dull cadarn, cyson a chefnogol o werthuso ac ailddilysu yn y rolau hyn, gan hefyd gynnig hyfforddiant ar gyfer arfarnwyr a’r rhai sy’n cael eu harfarnu.