Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd gyda diogelwch cleifion wrth wraidd popeth a wnawn.

Cyfeirir at thema eleni o 'wella diagnosis ar gyfer diogelwch cleifion' drwy gydol llawer o'n gwaith. Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau presennol rydym yn gweithio arnynt:

 

Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer genomeg. Bydd genomeg yn chwarae rhan fawr yn nyfodol gofal iechyd trwy ein helpu i ddeall afiechydon yn well a datblygu triniaethau a chynlluniau gofal mwy manwl gywir. Bydd hyn yn helpu i wella diagnosis cleifion ac yn y pen draw gofal cleifion.

 

Cynllun Gweithlu Diagnosteg
Mae'r Cynllun Gweithlu Diagnosteg yn cyfuno gwaith presennol ar draws rhaglenni cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys, Delweddu, Patholeg, Endosgopi a Gwyddor Gofal Iechyd. Nod hyn yw gwella a chynyddu gwasanaethau diagnostig ledled Cymru.

 

Digwyddiadau Gwyddor Gofal Iechyd
Rydym yn hwyluso sesiynau galw heibio ar gyfer staff gofal iechyd sy'n gweithio mewn; genomeg, patholeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol glinigol, ymarfer yr adran lawdriniaethau ffisioleg glinigol, ffiseg feddygol a pheirianneg clinigol/adsefydlu. 

Mae'r sesiynau galw heibio yn cynnig:
- Cyngor ar addysg ac ariannu
- cyfleoedd datblygu gyrfa ac arweinyddiaeth
- Cipolwg ar brosiectau AaGIC ar gynaliadwyedd addysg, hunaniaeth broffesiynol a hyrwyddo proffesiwn.

 

Y Fframwaith Gallu Digidol (DCF)
Rydym wedi datblygu'r DCF i helpu staff gofal iechyd i nodi a datblygu eu gallu digidol. Wrth i drawsnewid digidol ddatblygu, mae'r angen am sgiliau digidol yn dod yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ond hefyd ar gyfer gwella ansawdd y gofal a ddarperir a lleihau anghydraddoldeb iechyd.

Wrth i dechnoleg ddatblygu, gall allgáu digidol waethygu anghydraddoldebau iechyd trwy ei gwneud hi'n anoddach i bobl gael mynediad at ofal iechyd, defnyddio gwasanaethau, a chael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gadw'n iach. Felly mae arfogi staff gofal iechyd â'r sgiliau angenrheidiol i helpu i drin cleifion yn fwy effeithlon yn ogystal â'u haddysgu ar lywio'r dirwedd iechyd digidol gymhleth yn hanfodol.


Dilynwch ni ar Facebook a LinkedIn i ddarganfod y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf.