Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Mohsin gydag AaGIC.
Enw: Mohsin
Yn astudio: Seicoleg
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Interniaeth gyda: Tîm Addysg a Hyfforddiant Aml-broffesiynol mewn Gofal Cynradd a Chymunedol yn AaGIC
Mohsin ydw i a dw i yn fy ail flwyddyn yn astudio seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd fy interniaeth i yn y Tîm Addysg a Hyfforddiant Aml-broffesiynol mewn Gofal Cynradd a Chymunedol yn AaGIC. Gweithiais i ar gynhyrchu crynodeb o addysg a hyfforddiant i nyrsys iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal cynradd a chymunedol.
Mae’r interniaeth hon wedi dangos i mi cymaint galla i ei wneud.
Crynodeb o’r prosiect
Dw i wedi bod yn gweithio ar addysg a hyfforddiant aml-broffesiynol mewn gofal cynradd ac eilradd.
Rhoddwyd y dasg i AaGIC ddatblygu a gweithredu cynllun gweithlu iechyd meddwl. Mae rhan o’r cynllun hwn yn cynnwys deall anghenion addysg a hyfforddiant y bobl hynny a fydd yn cyflwyno’r cynllun hwn yn y timoedd aml-broffesiynol, yn ogystal â gwella capasiti hyfforddi.
Mae fy mhrosiect i wedi canolbwyntio ar ddeall addysg a hyfforddiant grŵp proffesiynol ym maes gofal cynradd ac eilradd. Y grŵp proffesiynol rwyf wedi bod yn edrych arno yw nyrsys iechyd meddwl sy’n darparu cymorth a gofal i gleifion, gan ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.
I ddechrau
Dechreuais i drwy gynnal chwiliad ar y we o’r addysg a’r hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys:
Fel arfer, mae angen graddau cyn cofrestru er mwyn bod yn nyrs iechyd meddwl a gellir cwblhau graddau nyrsio iechyd meddwl ledled Cymru.
Ein prif ddiddordeb ni oedd ystyried y graddau ôl-raddedig gwahanol sydd ar gael gan nyrsys iechyd meddwl, a allai fod yn hanfodol wrth ganlyn gyrfa yn y maes. Mae graddau MSc ar gael mewn ymarfer clinigol uwch yng Nghymru, a fyddai’n berthnasol i bobl sydd am fod yn ymarferwyr nyrsio uwch. Mae hefyd gyfleoedd ôl-raddedig i nyrsys â diddordeb mewn arbenigo mewn meysydd penodol o iechyd meddwl, gan gynnwys therapïau siarad megis therapi ymddygiadol gwybyddol a therapi ymddygiad dialectegol.
Rwyf hefyd wedi ystyried cyrsiau ôl-raddedig sydd ar gael mewn gwledydd gwahanol y DU, lle mae’n ymddangos bod amrywiaeth fwy o gyrsiau MSc ar gael mewn therapi teulu systematig a chyflyrau affeithiol.
Gallai gael amrywiaeth fwy o gyrsiau ôl-raddedig fod yn fuddiol i’r GIG yng Nghymru, oherwydd y byddai’n golygu rhagor o nyrsys mewn meysydd gwahanol.
Rolau yn y gymuned
Ystyriais i’r rolau cymunedol gwahanol sydd ar gael ym maes nyrsio iechyd meddwl a oedd yn cynnwys casglu disgrifiadau swyddi. Roedd hyn yn ddefnyddiol er mwyn deall y rolau gwahanol sydd ar gael mewn gofal cynradd ac eilradd sydd ar gael i nyrsys iechyd meddwl.
Mae rhanddeiliaid sy’n berthnasol i’r prosiect hwn yn cynnwys cleifion, nyrsys iechyd meddwl, y Coleg Nyrsio Brenhinol a sefydliadau addysg uwch.
Roedd y prif randdeiliaid y canolbwyntiais i ar gwrdd â nhw’n cynnwys aelodau o fyrddau iechyd gwahanol a nodwyd fel arweinwyr addysg iechyd meddwl. Nodwyd yr arweinwyr hyn drwy gydweithio â’r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl i oedolion.
Roeddwn i wedi gallu cwrdd ag arweinwyr o Fyrddau Iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Bae Abertawe. Rwyf hefyd wedi coladu rhestr o gysylltiadau allweddol ar gyfer unigolion nad oedd yn bosib i mi gwrdd â nhw. Roedd y cyfarfodydd hyn yn ddefnyddiol er mwyn deall i ba raddau mae nyrsio iechyd meddwl mewn gofal cynradd a chymunedol wedi’i strwythuro yn y byrddau iechyd gwahanol. Mae hefyd wedi helpu i mi ddeall y rôl mae’r Bwrdd Iechyd yn ei chwarae mewn gwasanaethau iechyd meddwl a’r ddarpariaeth addysg a’r hyfforddiant bresennol a ddarparwyd. Roedd hyn yn allweddol i ddeall y materion sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant mewn nyrsio iechyd meddwl.
Camau nesaf
Byddaf yn cynnal cyfarfod bwrdd â MPETPC ym mis Medi, pan fydd fy interniaeth wedi dod i ben, i benderfynu ar flaenoriaethau’r gwaith hwn wrth symud ymlaen.
Un peth rwyf wedi’i ddysgu yw nad oes rhaid i chi fod yn feddyg neu’r nyrs i ychwanegu gwerth at y GIG. Mae sawl ffordd o gyfrannu.
Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol
Yn fy amser hamdden, dw i’n mwynhau cadw’n heini drwy chwarae chwaraeon megis pêl-droed a badminton.