Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Khadija gydag AaGIC.
Enw: Khadija
Wedi astudio: Newyddiaduriaeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Interniaeth gyda: Tîm Gwella Ansawdd AaGIC
Khadija ydw i a graddiais i yn Newyddiaduriaeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd! Byddaf yn dychwelyd i astudio pan fyddaf yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Rheoli Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd ym mis Medi.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn y sector iechyd cyhoeddus, ar ôl gweithio i AaGIC yn y gorffennol. Y flwyddyn ddiwethaf, roeddwn i wrth fy modd pan lwyddais i yn y cyfweliad eleni i ddychwelyd oherwydd mai diwylliant gweithio AaGIC wnaeth fy ysbrydoli i ddod yn ôl.
Mae fy interniaeth gyda’r Uned Ansawdd yn AaGIC. Mae fy mhrif gyfrifoldebau’n cynnwys casglu ymatebion data o aelodau o’r grŵp o gymheiriaid ERIIC, a fydd yn fy helpu i greu isadeiledd mwy gweithredol ar gyfer llywodraethu ymchwil yn AaGIC. Byddaf yn ceisio defnyddio Gwella i ddatblygu lle ar gyfer ERIIC.
Crynodeb y Prosiect
Eleni, mae fy mhrosiect wedi canolbwyntio ar ddatblygu isadeiledd gweithredol er mwyn rheoli data yn AaGIC. Yn fwy penodol, rwyf wedi bod yn gweithio ar ERIIC (sef Cydweithrediad Gwella ac Arloesi Gwerthuso Ymchwil) sy’n grŵp cymheiriaid ar gyfer rheoli ymchwil.
Roeddwn i’n gweithio fel rhan o grŵp cymheiriaid ERIIC newydd ei sefydlu yn AaGIC, sy’n hwylusydd allweddol ar gyfer nodau sefydliadol. Rwy’n falch iawn o allu fod yn rhan o lywio sut y gellir gweithredu ERIIC i gynrychioli holl lifau gwaith AaGIC. Gellir hefyd ei ddefnyddio i drosglwyddo gwybodaeth er mwyn bod yn sail i allu sefydliadol datblygu ymchwil.
Sefydlu’r prosiect
Gwnes i lawer o ymchwil i ddeall yr hyn roedd ‘cymunedau ymarfer’ yn ei olygu a pham roedd hyn yn hanfodol ar gyfer cynyddu rheoli ymchwil. Un elfen allweddol a wnaeth ddylanwadu ar sut ystyriais i fy mhrosiect oedd y cysyniad o drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth a’r hyn yr oedd hynny’n ei olygu mewn llenyddiaeth a allai fy helpu i gyfieithu gwybodaeth allweddol yn weithrediad effeithiol.
I gyflawni’r nod a amlinellwyd, dechreuais i weithio’n ofalus iawn ar gasglu data o sawl aelod o grŵp cymheiriaid ERIIC amrywiol. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gyflawni data ansoddol a data meintiol drwy gyfweliadau ac arolygon ar-lein.
Creais i arolwg a gafodd ei anfon at aelodau’r ERIIC yn AaGIC. Diben yr arolwg hwn yw mesur dealltwriaeth unigolion am beth yw ERIIC a’u disgwyliadau ohono.
Roedd yn gyfle cyffrous i gyfweld ag amrywiaeth eang o unigolion yn AaGIC a chynnal cyfweliadau â nhw. Roedd yn bwysig i mi gysylltu ag unigolion gwahanol, cael gwybod beth oedd eu prosiectau a deall beth roeddent ei eisiau o ran hwyluso cydweithio, os oedd angen hyfforddiant gwell arnyn nhw ac yn union beth oedd disgwyliadau ERIIC a sut y gallai ddatblygu.
Yn ogystal, datblygais i gwmwl geiriau o rai o’r data ansoddol y des i o hyd iddo, sy’n dangos amlder rhai o’r themâu allweddol. Mae hefyd yn cynnig rhagflas o’r hyn roedd aelodau’n eu meddwl am agweddau blaenllaw ERIIC.
Gwnaeth aelodau hefyd fynegi y byddai tryloywder yn ERIIC yn agwedd allweddol. Roeddent am wybod pa agweddau ar ddulliau ymchwil a gwerthuso fyddai mwyaf perthnasol iddyn nhw.
Dod â’r prosiect i ben
Wrth i mi ddod â’m prosiect i ben, mae’n haws i mi ei rannu i dri cham:
Roedd tryloywder yn faes hynod bwysig i ERIIC, felly dylai’r amlygrwydd fod yn glir iawn. Rhaid i ni ddechrau canolbwyntio ar sefydlu logo clir a brandio cryfach i ERIIC. Gall y tri cham nesaf hefyd arwain at is-grwpiau diddordeb newydd yn ERIIC yn seiliedig ar dderbyniad yn y cyfarfod nesaf, a gynhelir ym mis Medi.
Gwnaeth fy nata meintiol hefyd ddangos bod hyfforddiant yn agwedd fawr ohono. Gall y tîm ddefnyddio’r data i weld pa fath o hyfforddiant a chymorth ymchwil y dylid ei flaenoriaethu i unigolion.
Cynnal cyfweliadau a derbyn ymatebion oedd un o’m hoff agweddau ar yr interniaeth. Teimlais i fod ymddiriedaeth ynof fi lawer wrth ymdrin â gwybodaeth allweddol a fyddai’n cyfrannu at dwf a datblygiad ERIIC.
Gwnes i hefyd gynyddu fy hyder llawer diolch i reolwr a oedd yn ymddiried ynof fi i wrando’n dda a chasglu syniadau ac ymatebion a fyddai’n cael eu cyfieithu’n rhywbeth i’w gwneud yn y dyfodol.
Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol
Yn fy amser hamdden, dw i wrth fy modd yn pobi ac yn teithio i weld lleoedd newydd!