Neidio i'r prif gynnwy

Cam Gweithredu 5 Dealltwriaeth Well o Weithio Aml-Broffesiynol

Crynodeb

Cyhoeddwyd y cam gweithredu hwn fel “Gweithio gyda Llais, datblygu a lansio ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i ddinasyddion ar y Model Gofal Sylfaenol i Gymru i gynorthwyo dealltwriaeth o’r gweithlu aml-broffesiynol sy’n gweithio o fewn ac ar draws lleoliadau sylfaenol a chymunedol gan gynnwys rôl rhagnodwyr eraill gan ddefnyddio dulliau lluosog i gyrraedd pob grŵp poblogaeth gan gynnwys y rhai na chlywir eu llais yn aml”.

Fodd bynnag, ar ôl trafodaethau gyda rhanddeiliaid, cytunwyd na fyddai ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yn ddefnydd gorau o adnoddau i wella dealltwriaeth o weithio amlbroffesiynol mewn Gofal Sylfaenol. O ganlyniad, ail-ganolbwyntiwyd y cam gweithredu hwn fel “Datblygu Gyrfaoedd Gofal Sylfaenol i hyrwyddo’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa o fewn gofal sylfaenol ac amlygu’r rhagolygon ar gyfer gweithio aml-broffesiynol”.

Disgrifiad 

Mae dros 350 o swyddi gwahanol mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Pentref ar-lein yw Tregyrfa sydd wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr 14-16 oed i ddysgu am opsiynau gyrfa yn GIG Cymru. Er ei fod yn cynnwys rhai rolau gofal sylfaenol ar hyn o bryd, nid oes ganddo adeilad gofal sylfaenol pwrpasol eto. 

Manteision

Byddai creu adeilad Tregyrfa Gofal Sylfaenol yn helpu mwy o fyfyrwyr i ystyried gyrfaoedd mewn gofal sylfaenol. Byddai'n rhoi darlun clir o'r nifer o swyddi sydd ar gael a'u pwysigrwydd ym maes gofal iechyd. Drwy amlygu gwaith tîm rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol, gallai annog myfyrwyr i archwilio gyrfaoedd gofal sylfaenol. Byddai hyn yn cryfhau gwasanaethau gofal sylfaenol ac yn helpu i sicrhau gofal iechyd dibynadwy mewn cymunedau.

Cynnydd yn 2025/2026

Oherwydd heriau adnoddau yn 2024/2025, bydd datblygu'r adeilad gofal sylfaenol yn dechrau ddechrau 2025/2026. Mae'r holl gynnwys yn barod, gan gynnwys fideos, blogiau, animeiddiadau sy'n egluro gofal sylfaenol, posteri gyda negeseuon iechyd, a dolenni i adeiladau eraill Tregyrfa.

Camau nesaf

Creu adeilad Gofal Sylfaenol Tregyrfa ar-lein. Rhannu a hyrwyddo ei gynnwys drwy ffeiriau gyrfaoedd a thîm gyrfaoedd AaGIC.

 

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf