Neidio i'r prif gynnwy

Cam Gweithredu 6 Gweithio Aml-broffesiynol Gwell

Crynodeb

Gweithio gydag Academïau Gofal Sylfaenol i greu pecyn cymorth sy'n helpu cyflogwyr gofal sylfaenol a meddygaeth deuluol i ddeall rolau, sgiliau ac anghenion goruchwylio gwahanol weithwyr proffesiynol yn eu timau.

Disgrifiad 

Mae'n bwysig bod gwasanaethau iechyd yn gwybod sut i ddefnyddio a datblygu sgiliau eu gweithlu orau. Mae'r prosiect hwn yn darparu adnoddau i helpu cyflogwyr a rheolwyr i nodi'r sgiliau sydd eu hangen i wasanaethu anghenion iechyd cymunedol a chefnogi staff i'w datblygu. Mae deall cwmpas ymarfer, sgiliau gofynnol ac anghenion goruchwylio pob rôl yn allweddol i adeiladu timau cryf ac effeithiol.

Manteision

Bydd y pecyn cymorth yn helpu cyflogwyr a rheolwyr i weld sut mae gwahanol rolau gofal iechyd yn cyd-fynd, gan sicrhau bod staff yn gweithio o fewn eu sgiliau a'u gofynion cyfreithiol wrth gynnal safonau gofal uchel. Mae'n annog gwaith tîm a datblygiad parhaus, gan gryfhau gwasanaethau gofal sylfaenol a gwella gofal cleifion.

Cynnydd yn 2025/2026

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect hwn ym mis Rhagfyr 2024. Ers hynny, mae strwythurau a dogfennau llywodraethu allweddol wedi'u sefydlu. Mae tîm y prosiect wedi gweithio i sicrhau cynrychiolaeth amrywiol gan randdeiliaid ac osgoi dyblygu gyda ffrydiau gwaith cysylltiedig eraill, megis canllawiau goruchwylio. Mae adnoddau presennol yn cael eu hadolygu nawr i'w cynnwys yn y pecyn cymorth.

Camau nesaf

Yn 2025/2026, bydd y tîm yn parhau i ymchwilio i adnoddau sydd ar gael, nodi unrhyw fylchau, a chreu strategaethau i fynd i'r afael â nhw. Bydd y pecyn cymorth terfynol yn cael ei lansio a'i hyrwyddo, gyda'r ymgysylltiad yn cael ei fonitro i lywio gwelliannau yn y dyfodol. Mae cam un yn dechrau gyda Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, gyda chynlluniau yn y dyfodol i ehangu i Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol ac Optometreg.

 

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf