Dangosfwrdd Data'r Gweithlu
Rydym wedi casglu ystod o ddata gweithlu ar gyfer iechyd meddwl a'i integreiddio o fewn dangosfwrdd, mae'r casgliad data hwn yn ehangu'n raddol ac ar hyn o bryd mae'n cwmpasu gweithlu Iechyd Meddwl Oedolion y GIG, rydym yn dechrau casglu data ar gyfer y gweithlu Plant a Phobl Ifanc ac yn ehangu'r ystod o ddata i gynnwys cyfrif pennau. Yn y dyfodol byddwn yn edrych i integreiddio'r data hwn â'n dangosfyrddau ESR fel bod gennym ystod ehangach o setiau data. Mae'r dangosfwrdd eisoes wedi bod o ddefnydd i gydweithwyr ar draws GIG Cymru er mwyn edrych ar dueddiadau. Enillodd y gwaith hwn wobr Dadansoddeg Gweithlu HPMA Cymru yn 2024 hefyd.
|
Cymrawd Clinigol Digidol Mae cyfleoedd i ddarparu gofal yn wahanol sydd angen sgiliau a galluoedd ychwanegol, modelau gweithlu gwahanol a ffyrdd newydd o weithio. Bydd digidol yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi a chefnogi'r newid hwnnw. Er mwyn llywio'r newid hwn mae angen gwneud rhywfaint o waith rhagarweiniol i ddeall y dirwedd bresennol a nodi
Rydym hefyd yn ariannu cynllunwyr gweithlu ar sail ranbarthol a fydd yn cynnig hyfforddiant cynllunio gweithlu pwrpasol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chynllunwyr. (dolen i'r adran adnoddau cynllunio gweithlu)
|
|
Cynllunio Senario Rydym yn gweithio ar gynnwys modelu galw a chyflenwad yn ein cynllunio sy'n cael ei ategu gan ddata gwell i gefnogi gosod y cyfeiriad ar gyfer dulliau ac atebion gweithlu yn y dyfodol. Bydd y rhain yn ymestyn i'r 10 mlynedd nesaf yn seiliedig ar ystod o senarios, ymchwil a sganio'r gorwel yn ogystal ag ystyried llwyddiannau a heriau presennol y cynllun. Drwy’r broses hon byddwn yn gwneud argymhellion a fydd yn llywio ein dull o barhau i hyrwyddo ein dull datblygu’r gweithlu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar ôl i gyfnod cychwynnol y cynllun ddod i ben.
|
|
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm rhaglen iechyd meddwl |