Mae gofyn i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gyfrifo’r nifer a chymysgedd sgiliau staff nyrsio sydd eu hangen i fodloni anghenion cleifion drwy driongli tair ffynhonnell wybodaeth gritigol:
- aciwtedd cleifion: amcangyfrifiad o gyfanswm y gofal sydd ei angen ar glaf ar sail dwysedd, cymhlethdod a natur anrhagweladwy ei anghenion holistaidd. Yng Nghymru, Lefelau Gofal Cymru yw’r adnodd a ddefnyddir i gynorthwyo nyrsys i fesur aciwtedd a dibyniaeth eu cleifion.
- dangosyddion ansawdd: mesur o’r ffactorau sy’n berthnasol i ddarpariaeth gofal nyrsio, ac sy’n cael eu defnyddio i bennu a yw’r adran yn darparu canlyniadau da i gleifion a staff.
- barn broffesiynol: mae’n cynnwys y nyrs yn defnyddio ei gwybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn ffordd sy’n cael ei llywio gan farn broffesiynol, y gyfraith ac egwyddorion moesegol i ddatblygu penderfyniad ar y ffactorau sy’n dylanwadu gwneud penderfyniadau clinigol ynghylch diogelwch cleifion.