Mae'r dudalen hon ar gyfer y rhai sydd ddim wedi gweithio mewn swyddi gwyddor gofal iechyd y GIG o'r blaen ac sy'n fyfyriwr ar raglen hyfforddi.
Mae rhaglenni gradd fel rhaglenni hyfforddi ymarferwyr, radiograffeg a graddau ymarfer adran lawdriniaeth yn cael eu comisiynu gennym ni yn AaGIC.
Maent wedi'u cynllunio i arwain yn uniongyrchol at swyddi ymarferwyr yn GIG Cymru.
Mae’r nifer o llefydd yn dibynnu ar nifer o swyddi sy'n debygol o fod ar gael yng Nghymru pan fyddwch chi'n graddio.
Bydd lleoliadau o fewn y rhaglen hon yn cael eu cynllunio gan y brifysgol, ni a hyfforddwyr y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth.
Mae pob arbenigedd o'r rhaglen hyfforddi gwyddonwyr ar agor i wasanaethau yng Nghymru ofyn am gyllid ar gyfer:
Mae’r rhain yn dibynnu ar y swyddi bydd eu hangen yn y gwasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol.
Pan fyddwch chi'n ymuno â'r rhaglen hyfforddi gwyddonwyr yn llwyddiannus, rydych chi'n dod yn weithiwr GIG Cymru am 3 blynedd y rhaglen
Diploma Lefel 7 mewn Ffotograffiaeth Glinigol - HEIW
– er nad yw wedi'i gomisiynu ar lefel ôl-raddedig gan HEIW, mae ar gael yn y DU.
Bydd Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru yn rhoi esboniad cynhwysfawr o'r rhaglenni hyfforddi sydd ar gael i chi.