Ydych chi'n gweithio mewn adran: Genomeg, Patholeg, Radiograffeg, Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol Glinigol, Theatr Llawdriniaeth, Ffisioleg Glinigol, Ffiseg Feddygol, neu Beirianneg Glinigol / Adsefydlu?
Dewch draw i ddarganfod mwy am Wyddor Gofal Iechyd Cymru a chyfleoedd cyffrous gydag AaGIC - galwch draw i'n gweithdy, mae rhywbeth at ddant pawb
Sut i gymryd rhan, Dweud eich dweud, a mynychu ein digwyddiadau personol fis Medi yma (gweler y tabl isod).
Dyddiad |
Lleoliad |
Dydd Llun 16eg
|
YB: Ysbyty Singleton YP: Canolfan Ganser Felindre |
Dydd Mawrth 17eg
|
YB: BIP CaF a Ysbyty Brenhinol Morgannwg (amser i'w gadarnhau)
Mae’r sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi’i ganslo gan fod tîm Gwyddor Gofal Iechyd Cymru yn ymuno â chyfarfod rhwydwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar 19 Medi. |
Dydd Mercher y 18fed |
YP: Ysbyty Brenhinol Gwent |
Dydd Llun y 23ain
|
YB: Ysbyty Gwynedd YP: Ysbyty Glan Clwyd |
Rydym yn y broses o fapio llwybrau gyrfa, ac mae archwilio addasrwydd y ddarpariaeth hyfforddiant ac addysg bresennol yn bwysig i gyflawni hyn. Rydym am glywed gennych am yr hyn sy’n effeithiol, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gallwn gydweithio i nodi atebion addysg newydd a fydd yn sicrhau bod gennym seilwaith hyfforddi ac addysg cryf a chynaliadwy ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn GIG Cymru.
Rydyn ni yma i wrando arnoch chi ac eisiau casglu eich barn, eich profiadau a'ch arbenigedd ar hunaniaeth broffesiynol. Gobeithiwn gyda’ch cymorth chi y gallwn ddarparu iaith cyfun i’r proffesiwn. Bydd rhannu iaith yn gwella ymdeimlad o hunaniaeth broffesiynol - i ysgogi, denu, gwella cyfraddau cadw a hybu lles a chynyddu ymgysylltiad.
Er mwyn cynrychioli'ch proffesiwn yn gywir a chreu cynnwys hysbysebu sy'n adlewyrchu hyn, mae angen eich mewnbwn. Mae hysbysebu gyrfaoedd yn hanfodol ar gyfer tynnu sylw at y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud, sicrhau eich bod yn cael y gydnabyddiaeth yr ydych yn ei haeddu, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i'ch proffesiwn.
Darganfyddwch yr hyn y gall AaGIC ei gynnig i chi. Archwiliwch yr amrywiaeth o gyfleoedd yn AaGIC, o raglenni hyfforddi i gyrsiau arweinyddiaeth ar ein platfform ar-lein, Gwella. Mae ystod eang o opsiynau yn eich disgwyl, felly ymunwch â ni i ddarganfod beth sydd gennym i'w gynnig!
Byddwn yn dosbarthu nwyddau Gwyddor Gofal Iechyd Cymru yn ystod ein hymweliadau. Mae croeso i chi ddod draw a chasglu'r hyn yr hoffech chi - rydyn ni'n gyffrous i gwrdd â chi yno!
Os na welwch eich ysbyty ar y rhestr, rydym yn cynllunio mwy o sesiynau galw heibio ym mis Tachwedd a mis Chwefror, felly cadwch lygad allan!