Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu'n Seiliedig ar Ymarfer i'r Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs)

Beth yw dysgu’n seiliedig ar ymarfer?

Mae dysgu’n seiliedig ar ymarfer (a elwir hefyd yn ar leoliad) yn rhan hanfodol o daith myfyrwyr y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) i gymhwyso a chofrestru yn eu proffesiwn dewisol. Dysgu’n seiliedig ar ymarfer neu leoliad yw lle mae myfyrwyr yn cymhwyso ac yn atgyfnerthu eu dysgu, gan ddwyn â damcaniaeth academaidd ac ymarfer yn y gweithle ynghyd. Caiff dysgu’n seiliedig ar ymarfer ei oruchwylio a'i strwythuro i alluogi cynnydd tuag at ganlyniadau dysgu ac fel arfer mae'n cynnwys asesu'r myfyriwr. Mae hyn yn digwydd mewn amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol.

Ble gallai dysgu’n seiliedig ar ymarfer ddigwydd?

Mae angen i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd y dyfodol fod yn barod i weithio mewn ffyrdd newydd ac mewn lleoliadau ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, gwirfoddol a phreifat. Mae hyn er mwyn gwella ansawdd y gofal a gynigiwn i'n pobl a'n cymunedau.

I adlewyrchu hyn, rhaid i fyfyrwyr ymgymryd ag ystod amrywiol o leoliadau. Gallai lleoliadau gynnwys gofal uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar y person, asesiad a diagnosis clinigol. Gallai hefyd olygu arwain prosiect neu gymryd rhan mewn gwerthuso gwasanaethau, menter iechyd cyhoeddus neu ymchwil. Gallai lleoliadau gynnwys cartrefi pobl, meddygfeydd teulu, ysbytai, campfeydd, diwydiannau, ysgolion, clinigau cymunedol, elusennau, cartrefi gofal, prifysgolion a llawer mwy. Gallai'r rhestr hon fynd ymlaen ac ymlaen!

Mae dysgu rhyngbroffesiynol yn rhan bwysig o leoliad ymarfer i fyfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru. Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag o leiaf 150 awr o weithio â myfyrwyr a phroffesiynau eraill ar y cyd y tu allan i'w rhaglen broffesiynol ddewisol. Mae hyn er mwyn meithrin gwaith tîm a rhannu dysgu, sgiliau a gwybodaeth.

Pwy sy'n ymwneud â dysgu’n seiliedig ar ymarfer?

Mae angen mwy o bobl sy'n gweithio mewn rolau AHP ar GIG Cymru i ddiwallu'r gofynion gofal y bydd yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. I gyflawni hyn, mae angen mwy o fyfyrwyr sy’n AHPs arnom a mwy o gyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cydweithio ar draws proffesiynau, byrddau iechyd, prifysgolion, cyrff proffesiynol, sefydliadau cynnal, myfyrwyr a chymunedau i greu lleoliadau cynaliadwy o ansawdd uchel. 

Gall pawb fod yn rhan o addysgu ymarfer; ni waeth ble rydych chi'n gweithio, pa mor hir rydych chi wedi bod yn ymarfer a pha un a ydych chi mewn rôl sy'n wynebu cleifion ai peidio. Gall gweithwyr cymorth ac ymarferwyr cynorthwyol chwarae rhan bwysig mewn lleoliadau myfyrwyr hefyd.

 

Am adnoddau a gwybodaeth am ddysgu’n seiliedig ar ymarfer nyrsio a bydwreigiaeth, cyfeiriwch at y ddolen gwe

 

Straeon Dysgu’n Seiliedig ar Ymarfer – I eich Ysbrydoli!

Ledled Cymru, mae myfyrwyr AHP yn ymgymryd â lleoliadau amrywiol a chyffrous fel rhan o'u hyfforddiant cyn cofrestru. Edrychwch ar ein casgliad o fideos byr i glywed addysgwyr a myfyrwyr yn rhannu eu straeon a'u cynghorion. Gwelwch ba gyfleoedd dysgu sydd ar gael, gyda phwy y gallech weithio, a sut y gall goruchwyliaeth edrych ar gyfer gwahanol feysydd lleoliad.

Fideos yn dod yn fuan


 
Adnoddau Dysgu’n Seiliedig ar Ymarfer
Codi Pryder a Chodi Llais heb Ofn i fyfyrwyr, hyfforddeion a dysgwyr seiliedig ar waith gofal iechyd proffesiwn*