Yn AaGIC, rydym yn arwain y rhaglen Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) yng Nghymru.
Mae'r rhaglen wedi'i sefydlu i weithredu'r weledigaeth 10 mlynedd a ddisgrifir yn Fframwaith y Proffesiynau Perthynol i Iechyd: Edrych Ymlaen Gyda’n Gilydd (2019). Y weledigaeth honno yw:
Pwrpas
Cefnogir y rhaglen gan:
- y ffordd 'systemau cyfan' o weithio sy'n seiliedig ar Cymru Iachach (2018)
- y ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n seiliedig ar symptomau yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol(2021)
- saith thema Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2020).
Diben y rhaglen:
- codi ymwybyddiaeth am gyfraniad hanfodol gweithwyr AHP i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- tynnu sylw at ein cyfleoedd gyrfaol amrywiol a gwerth chweil
- ein grymuso i arwain ymarfer aml-broffesiynol sy'n canolbwyntio ar y person yn y dyfodol.
Cyhoeddiadau
Isod mae'r polisïau a'r sbardunau perthnasol sy'n llywio ein rhaglen AHP.