Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Datblygu'r Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP)

Yn ôl Adroddiad y Cyngor ar Dystiolaeth Wyddonol : Y GIG ymhen Deg Mlynedd a Rhagor, mae Cymru yn wynebu rhai o'r heriau iechyd poblogaeth mwyaf arwyddocaol yn ystod y deng mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys poblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio a fydd yn byw'n hirach gyda nifer o glefydau, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, diabetes, a chanser. Mae gweithlu’r proffesiynau perthynol i iechyd (AHP) eisoes yn rhan gyfannol, gan weithredu ar draws gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd y GIG, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector. Mae hefyd mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol.

Rydym wedi datblygu Cynllun Datblygu’r Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu AHP ar hyn o bryd ac yn y dyfodol gydag amserlenni clir a’r hyn y gellir ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Drwy roi’r cynllun hwn ar waith, gall y gweithlu AHP ddiwallu anghenion iechyd newidiol poblogaeth y dyfodol drwy drawsnewid. Bydd hyn yn sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i gleifion ac yn galluogi unigolion i fyw bywydau iachach am hirach.

Ynglŷn â'r cynllun

Mae’r cynllun wedi’i lunio gan ddigwyddiadau amrywiol i randdeiliaid, gan gynnwys digwyddiad cynghori’r gweithlu ar y cyd a phedair sioe deithiol ranbarthol yn ystod 2023. Mae map sylweddoli’r buddion wedi'i greu i nodi’r allbynnau, y canlyniadau, a’r prif ddangosyddion newid  yn ôl yr hyn sy’n sbarduno polisi.

Mae cwmpas cynllun y gweithlu yn canolbwyntio ar gynorthwyo’r gweithlu AHP trwy fap ffordd dwy flynedd gyda 54 o gamau gweithredu wedi'u nodi. Os bydd cynllun y gweithlu AHP hwn yn cael cydnabyddiaeth a derbyniad gan y rhanddeiliaid o bwys, mae ganddo’r potensial i:

  • Wella’r wybodaeth a dealltwriaeth o werth ac effaith AHPs gan broffesiynau eraill
  • Denu a chadw AHPs o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Sicrhau bod AHPs yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi, datblygu ac arweinyddiaeth deg
  • Gwella’r modd i weld AHPs mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol
  • Tanategu datblygiad a llwyddiant timau aml-broffesiynol ar draws arbenigeddau
  • Gwella canlyniadau iechyd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol trwy hybu iechyd ac ataliaeth
  • Diwallu anghenion iechyd newidiol poblogaeth y dyfodol trwy drawsnewid
Sut olwg fydd ar lwyddiant

Bydd AHPs yn profi mwy o foddhad a lles yn eu swydd, gan gael eu hategu gan lwybrau gyrfa clir, amgylcheddau gweithio hyblyg, a gwell strategaethau i gadw swyddi. Bydd rhwydwaith hyfforddi cadarn hefyd yn sicrhau cyflenwad parhaus o weithwyr proffesiynol medrus. Bydd hyn yn sicrhau hunaniaeth unigryw a dyfodol rolau AHPs er mwyn cynhyrchu gweithlu ymroddedig a brwdfrydig.

Bydd gweithredu Cynllun Datblygu’r Gweithlu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) yn llwyddiannus yn arwain at ofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn cael ei ddarparu gan dimau aml-broffesiynol rheoledig a fydd yn arwain at iechyd well i’r boblogaeth trwy fentrau iechyd cyhoeddus rhagweithiol trwy gynorthwyo’r gweithlu AHP.

Cyflwyno'r cynllun

Cytunwyd ar amserlenni ar gyfer cyflwyno gyda ffrydiau gwaith ar draws AaGIC, gan sicrhau bod camau gweithredu perthnasol yn cael eu hymgorffori mewn prosesau cynllunio tymor canolradd. Unwaith bydd yn cael ei lansio, bydd cynllun cyflwyno cynhwysfawr yn cael ei sefydlu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid perthnasol. Bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu i fonitro cynnydd a diweddaru'r log Risgiau, Rhagdybiaethau, Materion a Dibyniaethau (RAID). Bydd adroddiadau amlygu rheolaidd yn darparu diweddariadau o fewn AaGIC a fforymau rhanddeiliaid o bwys, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd drwy gydol y broses weithredu.