Neidio i'r prif gynnwy

Gwella ansawdd ac ymchwil

Mae gwella ansawdd ac ymchwil yn hanfodol i ddatblygiad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r mentrau hyn yn grymuso Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) i sbarduno arloesedd, gwella’r canlyniadau i gleifion, a meithrin diwylliant o wella’n barhaus.

Archwiliwch Gomisiwn Bevan, sefydliad dylanwadol sy'n ysgogi arloesedd iechyd a gofal ledled Cymru. Mae Comisiwn Bevan yn darparu cyfleoedd i weithwyr AHP i gyfrannu at waith arloesol i wella gwasanaethau iechyd, llunio polisi, a hybu arferion gorau.

Trwy ei amrywiol fentrau, gan gynnwys rhaglen Enghreifftiau Bevan, gall gweithwyr AHP gymryd rhan mewn prosiectau arloesol. Mae modd iddynt gael cymorth ar gyfer ymchwil a datblygu, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol o'r un anian sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd ledled Cymru.

Dysgwch ragor am sut y gall Comisiwn Bevan gynorthwyo gweithwyr AHP i arwain arloesedd a sbarduno newid ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Darganfyddwch rwydwaith CAHPR (Cyngor Ymchwil y Proffesiynau Perthynol i Iechyd), a gynlluniwyd i wella capasiti a gallu ymchwil gweithwyr AHP ar lefelau lleol a chenedlaethol. P'un a ydych newydd ddechrau archwilio ymchwil neu'n ymchwilydd profiadol, mae CAHPR yn cynorthwyo’r holl weithwyr AHP.

 

Ymunwch â rhestr bostio hwb i gael diweddariadau rheolaidd am weithgareddau a chyfleoedd ymchwil neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau CAHPR ar-lein. Mae'r hybiau'n darparu lle cefnogol ar gyfer mentoriaeth, cydweithio, ceisiadau am ariannu, lledaenu canfyddiadau ymchwil, creu sylfaen o dystiolaeth, a chymhwyso ymchwil i ymarfer. Mae cyfarfodydd misol hefyd yn cynnig cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dylanwadu ar bolisi.

Dewch o hyd i'ch consortiwm agosaf a dod yn rhan o gymuned CAHPR.

Darganfyddwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, adnodd sy'n cynorthwyo ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i weithwyr AHP ar bob cam o'u taith ymchwil, p'un a ydyn nhw newydd ddechrau neu'n ymchwilydd profiadol.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn helpu gweithwyr AHP i ddatblygu sgiliau ymchwil, sicrhau cyllid, ac ymgysylltu â chymuned ymchwil ddeinamig. Mae hefyd yn hybu defnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella’r canlyniadau i gleifion a dylanwadu ar bolisi iechyd a gofal.

Dysgwch sut y gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Gynorthwyo gweithwyr AHP i feithrin eu gallu ymchwil a chael effaith yng Nghymru.

Archwiliwch Gwelliant Cymru, rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n ymroddedig i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae'r adnodd hwn yn

hanfodol ar gyfer gweithwyr AHP sy'n ceisio sbarduno gwella ansawdd, hybu arferion gorau, a gwella’r canlyniadau i gleifion.

Mae Gwelliant Cymru yn darparu offer, hyfforddiant a chymorth i helpu gweithwyr AHP i weithredu strategaethau gwella sefydliadol effeithiol. Mae canolbwyntio ar ddulliau cydweithredol yn meithrin arloesedd ac yn helpu i ddatblygu diwylliant o welliant parhaus ledled sector iechyd a gofal Cymru.

Dysgu rhagor am sut y gall Gwelliant Cymru rymuso gweithwyr AHP i gael effaith ystyrlon ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Darganfyddwch Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, llwyfan sy'n cysylltu sectorau iechyd, gofal a gwyddorau bywyd i gyflymu arloesedd a gwella’r canlyniadau iechyd ledled

Cymru. Mae'r hwb ar gyfer gweithwyr AHP yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr iymgysylltu â datblygiadau blaengar, cydweithio ar brosiectau arloesol, a dod o hyd i

 adnoddau i wella gofal cleifion.

Trwy bartneriaethau a mentrau, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu gweithwyr AHP i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau gofal iechyd, gan hybu technolegau newydd ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Archw iliwch sut y gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Gynorthwyo gweithwyr AHP wrth sbarduno arloesedd a gwella gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.