Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu sy'n canolbwyntio ar y person

Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) yn arweinwyr adsefydlu naturiol. Drwy eu harbenigedd, eu dyfeisgarwch, a'u ffordd o weithio sy'n seiliedig ar ganfod atebion, mae gan Gymru y potensial i ddatblygu gwasanaethau adsefydlu o'r radd flaenaf. Gall adsefydlu, ail-alluogi ac adferiad ddigwydd ar draws lleoliadau amrywiol i ddiwallu anghenion unigolion ar wahanol gamau o'u taith.