Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Staff GIG Cymru 2023

Mae crynodeb o Adroddiad Canfyddiadau Cenedlaethol ar gyfer Arolwg Staff GIG Cymru 2023 ar gael.

Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn adborth gan dros 22,500 o gydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru.

Dyma'r flwyddyn gyntaf o'n harolwg blynyddol , oherwydd ein bod yn deall mai ein pobl yw curiad calon GIG Cymru a bydd eu profiadau, eu mewnwelediadau a'u hadborth yn ein helpu i wella'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Pan fydd staff yn hapus ac yn ffynnu yn eu hamgylchedd gwaith, byddant yn trin ei gilydd yn garedig ac yn rhoi gofal tosturiol i'n cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth, gan ein helpu i greu Cymru iachach.

Mae gan Sefydliadau'r GIG eu canlyniadau lleol ac maent yn gweithio trwy themâu allweddol o'u canlyniadau. Gan mai hon yw blwyddyn gyntaf yr arolwg hwn, rydym wedi gwneud cymariaethau â chanlyniadau GIG Lloegr. Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, oherwydd set o gwestiynau cyson, byddwn yn gallu cymharu canlyniadau 2023 â 2024 ar ôl rownd nesaf yr arolwg.

Diolch i bawb a gymerodd amser i gwblhau'r arolwg a hefyd i'r rhai a gefnogodd i baratoi'r arolwg yn eu sefydliad. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac yn garedig yn gofyn i chi gefnogi rownd nesaf yr arolwg.

Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at wella ein GIG Cymru yn barhaus.