Mae’r gynhadledd AHP yn cael ei datblygu ar y cyd gyda chyd weithwyr Llywodraeth Cymru i arddangos yr Effaith & Gwerth sydd gan AHPs ar boblogaeth Cymru. Cadarnhawyd mai'r Prif Weinidog yw'r prif siaradwr ar gyfer y digwyddiad hwn.
AHPs, holl weithwyr gofal cymdeithasol, myfyrwyr, addysgwyr, uwch arweinwyr a cydweithwyr y gweithlu sy'n gweithio yng Nghymru.
Rydym yn falch o'ch gwahodd i gyflwyno crynodeb o'ch poster i'w hystyried. Mae'r gynhadledd hon yn darparu llwyfan i weithwyr proffesiynol ar draws disgyblaethau Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd rannu eu harloesiadau, ymyriadau neu ymchwil gwasanaeth. Mae eich cyfranogiad yn hanfodol i lwyddiant y digwyddiad hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at eich cyfraniadau.
Rhaid cyflwyno crynodebau erbyn dydd Llun 26 Awst 2024 fan bellaf a'i gyflwyno drwy'r ffurflen gyflwyno hon.
Canllawiau Cyflwyno:
Mae'n rhaid i chi fod yn gyflogedig fel gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru.
Dewiswch y categori priodol sy'n cyd-fynd â ffocws eich crynodeb.
Cwblhewch yr holl feysydd gofynnol i sicrhau bod eich cyflwyniad yn gyflawn.
Cyflwyniad cryno poster yn agor: 26 Gorffennaf 2024
Crynodeb posteri yn cau: 26 Awst 2024
Hysbysiad canlyniad cyflwyniad cryno posteri: 9 Medi 2024
Posteri wedi'u cwblhau i'w cyflwyno: 7 Hydref 2024
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech weld y meini prawf sgorio ar gyfer y crynodebau poster, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: HEIW.Ahpconference@wales.nhs.uk.
Diolch am eich diddordeb a chyfranogiad. Edrychwn ymlaen at adolygu eich cyflwyniad.