Ymunwch gyda ni ar gyfer lansiad swyddogol adnoddau Cyfweliadau Ysgogol (MI) AaGIC. Bydd y weminar hon yn cyflwyno'r adnoddau newydd a ddatblygwyd i gefnogi pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gymhwyso MI yn ymarferol. Byddwch yn clywed gan yr arbenigwr MI Orla Adams, ochr yn ochr â chydweithwyr o Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a fydd yn rhannu cefndir y gwaith hwn a sut y gellir ei ddefnyddio i gryfhau sgyrsiau a chefnogi canlyniadau cadarnhaol. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fod yn rhan o'r lansiad a dysgu sut y gall yr adnoddau hyn eich cefnogi chi a'ch timau.
🔗 https://forms.office.com/e/RAb7T7bap0
Ein nod yw darparu amgylchedd lle gall pawb gael mynediad a chymryd rhan lawn yn ein digwyddiadau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein digwyddiadau yn gynhwysol ac yn diwallu anghenion yr holl fynychwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch â ni drwy HEIW.WorkforcePlan@wales.nhs.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â HEIW.NursingWorkforcePlan@wales.nhs.uk