Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd y gynhadledd Dyfodol Nyrsio yn cael ei chynnal ar 17eg Mawrth 2025. Rydym yn gwahodd y gymuned nyrsio gyfan i ymuno â ni.
Nod y Gynhadledd Gweithlu Nyrsio AaGIC 2025 yw dod â nyrsys o bob lefel o bob rhan o Gymru ynghyd i rwydweithio, rhannu sgiliau, a chael mewnwelediadau gwerthfawr i wella eu hymarfer.
Gan ganolbwyntio ar drawsnewid y gweithlu, bydd ein prif siaradwyr yn darparu gwybodaeth gyfoes, seiliedig ar dystiolaeth y gall mynychwyr ei rhoi ar waith yn uniongyrchol yn eu rolau.
Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle unigryw ar gyfer twf proffesiynol, cydweithio, a chyfnewid syniadau arloesol, ac yn y pen draw yn cefnogi datblygiad parhaus y gweithlu nyrsio yng Nghymru ac yn ysgogi gwelliannau mewn gofal cleifion.