Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y proffesiwn fferylliaeth ac yn defnyddio senarios yn seiliedig ar ymarfer sy’n amlygu profiadau cleifion mewn lleoliadau fferyllol. Er bod yr ymgyrch yn agored i’r holl weithlu fferylliaeth, rydym yn annog ac yn croesawu ymgysylltiad gan broffesiynau eraill. Wrth i ni weithio i ddatblygu a gwella ein hymgyrchoedd yn y dyfodol, byddwn yn mabwysiadu ymagwedd amlbroffesiynol i hyrwyddo dysgu ar draws broffesiynau. Bydd cyfle i roi adborth ar ddiwedd yr ymgyrch ond os oes gennych unrhyw sylwadau yna rhannwch nhw drwy'r ffurflen adborth hon neu e-bostiwch: HEIW.pharmacy@wales.nhs.uk.
Mae bod yn ymarferydd sy’n ddiwylliannol gymwys yn cyfrannu at well iechyd a lles i gleifion ac mae’n hysbys ei fod yn lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) ill dau wedi cydnabod pwysigrwydd gwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn arferion gwaith.
Cyhoeddodd y GPhC ei Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Tachwedd 2021 a chyhoeddodd yr RPS eu strategaeth ar gyfer Gwella Cynhwysiant ac Amrywiaeth ar Draws ein Proffesiwn yn 2020.
Yng Nghymru, mae Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol AaGIC yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ac ar draws proffesiynau yn ogystal ag effaith gadarnhäol arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol ar brofiad staff a chleifion.
Mae’r GPhC yn diffinio cymhwysedd diwylliannol fel y “gallu i ddeall a rhyngweithio â phobl mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn parchu amrywiaeth a gwahaniaethau diwylliannol, gan gynnwys gwerthoedd, credoau, ac ymddygiadau."
Mae AaGIC wedi llunio’r ymgyrch hon i’ch annog i fyfyrio ar:
|
Trwy gyfres o heriau, bydd yr ymgyrch hon yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth a gwella eich dealltwriaeth o brofiadau pobl o wahanol ddiwylliannau i'ch rhai chi.
Byddwch yn dysgu’r effaith y gall gwneud rhagdybiaethau am berson a’i gredoau, ei anghenion, ei werthoedd, a/neu ei bryderon ei gael, a dulliau gweithredu all eu cefnogi wrth greu mannau diogel a chynhwysol i bawb.
Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i nodi anghenion a hoffterau person ag urddas a pharch beth bynnag fo'u hoedran, eu gallu corfforol ac addysgiadol, rhyw, hil, crefydd, rhywioldeb, neu sut mae'n dewis byw.
Darparwyd trosolwg manwl o'r ymgyrch yn ystod gweminar ein Hymgyrch Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol. Os gwnaethoch chi ei fethu, gallwch ddal i fyny yma.
Her |
Tasg/Her(iau) |
1 |
Offeryn hunan-fyfyrio cyflawn |
2 |
Cwblhau 2 fodiwl e-ddysgu – 20 munud y modiwl |
3 |
Darllen datganiad y claf a myfyrio ar ddysgu |
4 |
Gwylio fideo claf a myfyrio ar ddysgu |
5 |
Ymunwch â grŵp RPS Action in Belonging, Culture and Diversity (ABCD) a mynychu cyfarfod grŵp ABCD. Cynhelir cyfarfodydd unwaith bob deufis. Peidiwch ag anghofio bod angen i chi ymuno â grŵp ABCD yma. |
6 |
Cwblhewch Fflach-ffeithiau Fferylliaeth a/neu darllenwch ddetholiad o Flogiau RPS sy'n arddangos arfer fferylliaeth gynhwysol |
7 |
Darllen senario ymarfer a myfyrio ar ddysgu |
8 |
Gwylio fideo claf a myfyrio ar ddysgu |
9 |
Cwblhau'r offeryn hunanfyfyrio a rhoi adborth ar yr ymgyrch |
10 |
Gwnewch addewid trwy'r RPS ac edrychwch ar ein hadnodd cyfeirio |
Cliciwch ar y botymau isod i gael mynediad at yr heriau:
Mae’n bosibl na fydd rhai o’r dogfennau o ffynonellau allanol ar gael yn Gymraeg.
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Ganolfan Addysg i Raddedigion Fferylliaeth (CPPE) a ddarparodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr ymgyrch hon ac sydd wedi cefnogi ei datblygiad trwy rannu adnoddau a deunyddiau.
Bydd adnoddau a ddarperir gan CPPE yn cael eu cydnabod trwy gydol yr ymgyrch.