Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg
Dyma declyn sy'n gallu helpu dysgwyr i ddod o hyd i'w lefel wrth wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Mae'n bosib defnyddio'r Gwiriwr eto ar ôl cyfnod o dri mis er mwyn mesur datblygiad.
Say Something in Welsh (SSIW)
Mae SSIW yn gwrs sy'n helpu pobl i siarad a deall Cymraeg drwy wersi ar ffurf clipiau sain. Mae'r Cwrs Cyflwyno yn cynnwys mwy nac ugain o wersi byrion ac ymarferion sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sy'n cofrestru.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a SSIW wedi ffurfio partneriaeth yn ddiweddar hefyd. O ganlyniad bydd disgownt ar gyrsiau’r ddau sefydliad ar gael i ddysgwyr.
Duolingo
Mae Duolingo yn rhaglen ar-lein sy'n eich helpu i ddysgu ar ffurf gemau iaith. Mae’r gwersi byrion yma yn berffaith ar gyfer dysgwyr sy'n brin o amser ond sydd am weld cynnydd.
Meddalwedd digidol
Dyma restr o adnoddau defnyddiol i gefnogi unigolion sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
Cysgliad (meddalwedd gwirio iaith)
Mae Cysgliad yn cynnwys dwy brif raglen: Mae Cysill yn dod o hyd i gamgymeriadau ac yn eu cywiro. Casgliad o eiriaduron yw Cysgeir.
Microsoft yn Gymraeg
Gallwch lawrlwytho pecyn rhyngwyneb Cymraeg Microsoft er mwyn defnyddio eich cyfrifiadur a rhaglenni fel Word drwy gyfrwng y Gymraeg.
To bach
Mae To Bach yn ei gwneud hi'n hawdd i roi to bach ar lythyren wrth deipio.