Neidio i'r prif gynnwy
Dafydd Beeb

Ysgrifennydd y Bwrdd

Amdanaf i

Ysgrifennydd y Bwrdd

Hyfforddodd a chymhwysodd Dafydd fel cyfreithiwr yn Eversheds, Caerdydd, ar ôl gweithio yn flaenorol fel swyddog polisi mewn llywodraeth leol.

Fel cyfreithiwr mewnol ac Ysgrifennydd Cwmni, roedd yn arbenigo mewn gweithio i gwmnïau sy'n tyfu'n gyflym yn y sector technoleg ariannol.

Fel Cyfarwyddwr Cyfreithiol Creditsafe, darparwr gwybodaeth fusnes yn seiliedig ar y ‘cwmwl’, fe oruchwyliodd Dafydd yr heriau cyfreithiol sy'n gysylltiedig ag ehangu rhyngwladol cyflym.

Yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd Cwmni yn Target Group, cwmni allanol ar broses fusnes, cefnogodd Dafydd werthiant y busnes gwerth £112m a thrafod a drafftio contractau gwerth miliynau o bunnoedd gyda chwmnïau cyllid Blue Chip.

Yn 2017, ymunodd Dafydd â GIG Cymru fel Uwch Gyfreithiwr Masnachol, ac fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Bwrdd AaGIC yn 2018.