Aelod annibynnol
Aelod annibynnol
Ar ôl graddio mae Judith wedi cael gyrfa helaeth, yn gweithio yn y GIG yn bennaf. Cyn ei hymddeoliad yn 2015, bu Judith yn gweithio am bron i 40 mlynedd yn GIG Lloegr ac yng Nghymru gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ar lefel Bwrdd, yn bennaf ym maes Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol. Mae ganddi brofiad o arwain newid sefydliadol, datblygu strategaethau datblygu’r gweithlu a’r sefydliad a sefydlu ac arwain timau Adnoddau Dynol effeithiol. Yn ystod y cyfnod hwn, treuliodd Judith hefyd ddwy flynedd ar secondiad yn Llywodraeth Cymru.
Gwasanaethodd Judith ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o fis Ebrill 2016, i ddechrau fel Aelod Annibynnol ac yna fel Is-Gadeirydd o Chwefror 2017. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Gadeirydd dros dro am ddau gyfnod, yn fwyaf diweddar o fis Hydref 2023 a daeth ei chyfnod yn y swydd i ben ddiwedd mis Mai 2024.
Bu Judith yn gadeirydd ar ddau Bwyllgor yn ystod y cyfnod hwn, sef y Pwyllgor Deddfwriaeth Iechyd Meddwl a’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn ogystal â chadeirio’r Bwrdd yn absenoldeb y Cadeirydd ac wrth weithredu fel Cadeirydd dros dro. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o sawl Pwyllgor arall; Pobl a Datblygu Sefydliadol, Ansawdd a Diogelwch, Archwilio, Risg a Sicrwydd, Cyllid a Chynllunio Strategol. Bu Judith hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru sy'n dod â phartneriaid Awdurdod Lleol a'r trydydd sector ynghyd.
Y tu allan i’w rolau swydd, mae Judith wedi codi arian i’r Teenage Cancer Trust a bu’n Rheolwr timau rygbi lleol yng nghlwb rygbi NHSOB yn Ne Ddwyrain Cymru am flynyddoedd lawer. Mae hi'n mwynhau gwylio chwaraeon a cherdded.