Aelod annibynnol
Aelod annibynnol
Bu Alun yn gweithio yn GIG Cymru am 35 mlynedd cyn ymddeol yn 2019. Mae’n gyfrifydd cymwysedig a oedd, yn ystod ei yrfa, yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn nifer o sefydliadau GIG Cymru; gan gynnwys yr awdurdod iechyd, byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG. Am ychydig flynyddoedd olaf ei yrfa bu Alun ar secondiad i Lywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar Gyfundrefn Gyllid y GIG.
Heblaw am gyfnod yn gynnar yn y 2000au, yn gweithio yn hen Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe, roedd gyrfa Alun wedi’i leoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Cyn dechrau yn AaGIC mae Alun wedi bod yn gwneud gwaith ymgynghorol amrywiol yn ddiweddar.
Yn wirfoddol mae Alun ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwr a Thrysorydd yn Awel Aman Tawe (AAT), sy’n elusen ynni adnewyddadwy gymunedol, yn Gyfarwyddwr Awel y Gwrhyd, cwmni cyfyngedig sy’n eiddo i Awel Co-op ac yn Ymddiriedolwr yn Gofal Canser Tenovus.
Ac yntau’n Gymro Cymraeg o Landudno yn Ogledd Cymru, astudiodd Alun ym Mhrifysgol Caerdydd, yna bu’n gweithio ac yn byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr 27 mlynedd yn ôl.