Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan

Cafodd  y rhaglen hon ei throsglwyddo oddi wrthym ni i Weithrediaeth y GIG ar 1 Ebrill 2024. Maent bellach yn gyfrifol am gyflwyno rhaglen waith sydd wedi'i hadnewyddu.

 

Beth yw Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan?

Sefydlwyd y rhaglen i gefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflawni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd yng Nghymru sicrhau lefelau priodol o staff nyrsio ar draws gwasanaethau a ddarperir ac a gomisiynir. Mae mesurau o'r fath yn galluogi darparu gofal o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn sensitif i gleifion.

 

Ein Rôl yn y Rhaglen

Gwnaethom gyfrannu at gyflawni Rhaglen Staffio Nyrsio Cymru Gyfan drwy:

  • Datblygu offer gweithlu: Mae’r rhain yn llywio cynllunio’r gweithlu o fewn:
    • ardaloedd cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion
    • Cleifion Mewnol Pediatrig
    • unedau derbyn ac asesu iechyd meddwl
    • gwasanaethau ymwelwyr iechyd a nyrsio ardal.
  • Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Buom yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, myfyrwyr nyrsio, a’r cyhoedd. Roedd hyn yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn ymgysylltu ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith.
  • Cefnogaeth addysgol: Darparwyd ganllawiau cenedlaethol a chymorth gweithredol gennym  i ddatblygu a gweithredu strategaethau staffio nyrsio a chynllunio gweithlu effeithiol.

Gwnaethpwyd y gwaith hwn ar y cyd â Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau GIG, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid allweddol.

Gallwch barhau i ddilyn cynnydd y rhaglen hon drwy wefan Gweithrediaeth y GIG.